Oeddech chi'n gwybod mae dim ond 114 o ddyddiau sy' na tan y Dolig? Ydi wir, mae'r hâf yn brysur diflannu o dan ein trwynau, ond mae 'na ychydig o wyliau ar ôl i'n cadw ni'n hapus am sbel fach.
Gwyl Gwydir, LlanrwstDyffryn Conwy yw'r lle i fod penwythnos Medi 10-11. Mae'r wyl wedi cael ei drefnu gan griw o bobl ifanc a oedd yn awyddus iawn i gael mwy o gerddoriaeth byw yn Llanrwst. Mae'r lein-yp yn wych:
Nos Wener - Clwb y Legion - 8pm
Meic Stevens
Alun Tan Lan
Tecwyn Ifan
Gildas
Dydd Sadwrn - Gardd Gwrw y New Inn - 12pm-8pm
Mr Huw
Jen Jeniro
Yucatan
Dan Amor
The Peakz
Haku Tokin4wa
Nos Sadwrn - Clwb y Lebion - 8pm
Llwybr Llaethog
Yr Ods
The Loungs
Violas
... a gwell fyth, mae lle i wersylla yno! Does dim rhaid pacio'r babell i fyny eto - a mae'n fargen am £5 y noson (y pen). Am fwy o fanylion ewch i
Gwyl Wa Bala
Smai Wa fydd y cyfarchiad yn y Bala penwythnos Medi 17-18. Mae lleoliad yr wyl ar faes parcio Cywain. Mae'r babell yn fwy, felly bydd y bar yn fwy ag yn agored tan 2am - nid bod ni'n annog gor-yfed yma'n C2 wrth gwrs!
Nos Wener
Gwibdaith Hen Fran
Elin Fflur
Daniel Lloyd
Mr Huw
Dydd Sadwrn
Sioe Stwnsh S4C
Bunji Run
Sali Mali a'i Ffrindiau
...a llu o weithgareddau eraill
Nos Sadwrn
Bryn Fôn
Gai Toms
Candela
Bandana
Crwydro
The Loaded Dice
Sofa King Dirty
Am fwy o fanylion ewch i wefan .
Mi fydd hi'n amser wedyn i olchi'r wellies, cadw'r babell am flwyddyn arall ag edrych nôl dros yr hâf....trist iawn, very sad!!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.