麻豆社

Be fydd ar eich Stereo eleni?

Derwyddon Dr Gonzo

Guto Brychan (Trefnydd Maes B)

  • Derwyddon Dr Gonzo
    Band ifanc o Wynedd, ddaeth i amlygrwydd ar 么l ennill Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Eryri 2005. Darlledwyd sesiwn gan y band ar C2 ym mis Ionawr 2006, a rhyddhawyd yr Ep 'Ffandango' ganddynt ym mis Mai llynedd.
  • Y Rei
    Prosiect newydd Aron Elias, gynt o Pep le Pew - gyda Rich ac Alex o Gola Ola. Ers recordio sesiwn i C2 fis Gorffennaf llynedd, a rhyddhau CD 'nifer cyfyngedig' yn ystod yr haf mae'r Rei wedi bod yn gigio'n gyson ac yn brysur wneud enw i'w hunain fel un o fandiau mwyaf 'ecseiting' y SRG.
  • She's Got Spies
    Band newydd o Gaerdydd, sydd ddim ond wedi bod hefo'u gilydd ers mis Tachwedd '06. Maen't yn dweud ar eu tudalen myspace eu bod eisioes wedi ysgrifennu dros 70 o ganeuon, ac wedi recordio rhai ohonynt dros y Nadolig. Maen't yn gobeithio cychwyn gigio ym mis Chwefror... gwyliwch y gofod hwn!
  • Llan Clan
    Un o fandiau ifanc Blaenau, sydd eisioed wedi ymddangos ar CD amrywiol cyntaf 'Y Gwallgofiaid' a chyraedd rownd derfynnol Crwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru llynedd. Bydd CD newydd 'Y Gwallgofiaid' allan yn y Gwanwyn, felly edrychwch ymlaen i glywed rhagor am Llan Clan.
  • Gareth Bonello
    Artist unigol sydd hefyd yn gweithio dan yr enw Gentle Good. Mi fydd albwm newydd yn cael ei ryddhau ganddo yn ystod y flwyddyn, ac mi fydd yn siwr o fod yn brysur yn gigio er mwyn ei hyrwyddo.

Owain Schiavone (Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith)

  • Yucatan
    Er mai dim ond yn gymharol ddiweddar y mae Yucatan wedi dod i amlygrwydd, maen't wedi bod hefo'u gilydd ers rhyw flwyddyn a haner. Bu'r band allan yng Ngwlad yr I芒 rai misoedd nol yn cymysgu traciau hefo aelodau Sigur Ross, a bydd eu halbym gyntaf allan ar label Slacyr o fewn y misoedd nesaf.
  • Y Rei
    Tipiodd Owain - fel Guto - y band yma o Port. Ewch i'w gweld yn fyw - cerddorion gwych a chaneuon 'catchy'... beth gewch chi'n well!
  • Radio Luxembourg
    Rhyddhawyd y sengl wych 'Os Chi'n Lladd Cindy' ganddynt yn ystod yr Eisteddfod yn Abertawe llynedd, ond 2007 fydd y flwyddyn fawr i Radio Lux, gyda dwy Ep a thaith hefo Euros Childs yn cael eu crybwyll.
  • Texas Radio Band
    Mae bron i dair mlynedd wedi mynd heibio ers iddynt ryddhau 'Baccta Crackin' ond mae Mini bellach nol o Spaen ac mi fydd yr albym newydd 'Gavin' yn cael ei rhyddhau yn fuan.

Esyllt Williams (Rheolwr label Ciwdod)

  • Al Lewis
    Artist sy'n rhyddhau ei albwm 'More Ways than One' ar i-tunes ar y 5ed o Chwefror, ac sydd newydd recordio sesiwn acwstig ar gyfer Lisa Gwilym (pan oedd hi yn cadw sedd Dylan a Meinir yn gynnes dros y Nadolig). Mae'n gobeithio rhyddhau EP Cymraeg yn ystod y flwyddyn, a bydd yn gigio yn gyson - yn enwedig yng Nghaerdydd a Llundain.
  • Threatmantics
    Mae Esyllt yn mynd i fod yn cyd-weithio hefo Threatmantics dros y misoedd nesaf, pan fyddant yn rhyddhau sengl ar label Ciwdod. Ar 么l gweld set byw gan y DJ Dyl Bili a'i fand yn Miri Madog y llynedd, mae Esyllt yn edrych ymlaen i glywed stwff newydd ganddo yn 2006.
  • Brigyn (eu stwff techno newydd)
    Mae Ynyr ac Eurig wedi bod yn cyd-weithio hefo Llwybr Llaethog ar ambell i fics o ganeuon y band - Os Na Wnei Di Adael Nawr yn un ohonynt. Mae Esyllt yn meddwl y bydd ychydig o newid arddull i ganeuon Brigyn yn 2007, ac mae'r g芒n Buta Efo'r Maffia yn arwydd o'r ffordd mae pethau am fynd.

Dyl Mei (Cynhyrchydd)

  • Eitha Tal Franco
    Dyma brosiect rhai o aelodau y band Zootechnics. Gwelodd Dyl Mei nhw'n gigio yn ddiweddar, ac wedi mwynhau eu perfformiad. Mae yna agweddau shambolic ond prydferth i'w caneuon!
  • Y Gwyddel
    Prosiect unigol Conor o'r band Plant Duw, sydd eisioes wedi cychwyn gigio. Mae Dyl yn cymharu arddull ei ganeuon fel 'Alun Tan Lan ryff'! Does wybod a fydd Y Gwyddel yn rhyddhau unrhywbeth yn ystod 2007, ond mae cynnig wedi cael ei wneud i Conor gan Dyl Mei eisioes.
  • Yucatan
    Fel Owain, mae Dyl Mei yn rhagweld blwyddyn brysur i Yucatan. Byddant yn cefnogi Y Rei yng Nghlwb Ifor Bach ar Nos Sadwrn Ionawr 27. Am yr holl gigs diweddaraf ewch draw i
  • Derwyddon Dr Gonzo
    Tip arall i chdi wylio allan am flwyddyn fawr gan y band ska-ffync ifanc o Wynedd. Gyda dylanwad cryf Gwilym Morus (y cynhyrchydd) ar Ffandango, fydd au harddull yn newid rhywfaint gyda dylanwad eu cynhyrchydd newydd Ed Holden? Beat-bocsio, rapio a free-stylio ella?!

    Am fwy o fanylion am CD's newydd .

    Gwrando

    Podlediad

    Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

    Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

    麻豆社 iD

    Llywio drwy鈥檙 麻豆社

    麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.