Â鶹Éç

C2 a Glastonbury 2007!

Radio Luxembourg

Eleni mi fydd enwau Radio Luxembourg a Cate le Bon yn cael eu gweld ochr yn ochr â'r Arctic Monkeys, Bjork, The Killers a'r Kaiser Chiefs yn line-up gŵyl enwoca'r byd - Glastonbury.

Ar ol cael eu henwebu gan C2, Radio Cymru mae Radio Luxembourg wedi cael eu dewis i ymddangos ar lwyfan "Â鶹Éç yn cyflwyno..." (Â鶹Éç Introducing...) - llwyfan i fandiau newydd, ac mi fydd C2 yn darlledu'r perfformiad.

Fe gafodd Cate le Bon ei henwebu gan Radio Wales a Radio 1 i berfformio ar yr un llwyfan, ac fe gafodd y ddau eu dewis allan o dros 100 o artistiaid o bob cwr o Brydain.

Mae yna flas Cymreig yn barod i'r ŵyl eleni wrth i'r Super Furry Animals, Shirley Bassey, Manic Street Preachers, Euros Childs a Gruff Rhys i gyd berfformio ar lwyfannau gwahanol, felly mi fydd y ddau mewn cwmni da!

Bob nos yn dilyn yr ŵyl mi fydd cyfle i glywed traciau o berfformiad byw Radio Luxembourg ar C2. Ac ar nos Iau, Mehefin 28ain, am 10pm mi fyddwn ni'n darlledu rhaglen arbennig o Glastonbury wrth i Huw Stephens gael cwmni Radio Lux, Cate le Bon ac artistiaid eraill o Gymru fydd yn yr ŵyl.

Cysylltiadau'r we:

Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.