Mae Llanrwst yn edrych ymlaen i wythnos lawn o gerddoriaeth a barddoniaeth yng ngŵyl Llanast Llanrwst 2007.
Mae'r dref yn agor ei drws i lanast cerddorol am y bumed flwyddyn eleni wrth i ddegau o grwpiau, artistiaid a beirdd ddod i berfformio mewn tafarndai a chlybiau lleol. Dyma'r amserlen...
Sadwrn Tachwedd 24
- Alun Tan Lan, Tecwyn Ifan - Y Fairy Falls, Trefriw (£5, 8pm)
Mercher Tachwedd 28
- Noson 'Dros Ben Llestri' - i ddisgyblion blynyddoedd 7 i 10. Canolfan Glasdir, Llanrwst (7pm)
- Cwis Clwb Gwawr - Y Llew Coch, Llanrwst (8pm)
Iau Tachwedd 29
- Stomp Llanast gyda Geraint Lovgreen, Iwan Llwyd, Meirion MacIntyre Hughes a llawer mwy - Y Clwb, Llanrwst (8pm)
Gwener Tachwedd 30
- Dylan a Meinir (Radio Cymru) yn darlledu'n fyw o Ganolfan Glasdir, Llanrwst (3pm)
- Drama 3 / 3 gan Gwmni Bara Caws - Canolfan Gymunedol, Llanrwst (7:30pm. Tocynnau - £5 i Oedolion / £3 i blant, ac ar gael o Swyddfa Menter Iaith Conwy ar 01492 642357, neu o Siop Bys a Bawd, Llanrwst)
- Gig Fawr Y Llanast - Gwibdaith Hen Fran, Cowbois Rhos Botwnnog, Jen Jeniro - Y Clwb, Llanrwst am 8:00pm
Sadwrn Rhagfyr 1
- Diwrnod Hwyl - Addas i blant o dan 7 oed. Canolfan Hamdden Llanrwst (10am)
- Cwpan Llanast - Twrnament pêl-droed 5-bob-ochr i blant 7-9 a 9-11 oed. £5 y tîm. Ffoniwch Owain Davies ar 01492 640028 am fwy o fanylion.
- Sesiwn Werin - Tafarndai Llanrwst. 3:00pm ymlaen.
- Sesiwn Llanast gyda Frizbee, Gai Toms, Dan Amor, Bysedd Melys, Sarah Louise, Annioddefol, Gwyneth Glyn, Dewi Prysor, Jim Rowlands, Gorwel Roberts, Ryan Kift, Paul Dooley a Gola Ola [dim ond rhai aelodau o'r bandiau uchod fydd yn ymddangos] - o gwmpas Tafarndai Llanrwst (7pm ymlaen)
Sul Rhagfyr 2
- Diwrnod o Feicio Mynydd - Canolfan Nant Bwlch Yr Haearn (£3, 10:30am)
- Gêm Bêl-droed - Tîm Sêr S4C v Sêr Llanrwst - Canolfan Hamdden Llanrwst am 3:00pm
Am fwy o fanylion am yr holl weithgareddau ewch i neu ffoniwch Menter Iaith Conwy ar 01492 642357.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.