Nos Iau, Tachwedd 29, cynhaliwyd 'Gwobrau'r Ffatri Bop' 2007 ac er y disgwyliadau uchel am noson a hanner, chafodd neb ei siomi. Gyda Alex Zane yn cyflwyno'r noson, cafwyd noson fawr i wobrwyo talentau cerddorol gorau Cymru.
Fideos cefn llwyfan o'r noson:
Carwyn a Geth o'r Genod Droog ar ddechrau'r noson
Daf a Mei o'r Sibrydion ar ôl derbyn eu gwobr
Georgia Ruth Williams a Rich Gola Ola
Mike Peters gyda'i wobr am gyfraniad oes
Roedd yr ystafell yn gorlifo hefo talent - boed yn fandiau neu'n bobl eraill sy'n ymwneud â'r sîn gerddorol - ac roedd bechgyn Dirty Sanchez yno hefyd yn cadw drygioni!
Ymysg enillwyr mawr y noson oedd y Manics, a gipiodd y wobr am y Band Gorau, a'r Stereophonics, gafodd eu gwobrwyo am yr Albym Orau hefo 'Pull The Pin' - ond nid oedd 'run o'r ddau fand yma yn medru bod yn bresennol ar y noson oherwydd ymrwymiadau gwaith.
Yn perfformio ar y noson oedd Funeral For a Friend (enillwyr Band Byw Gorau), y Wombats (Artist y Flwyddyn Xfm) a Georgia Ruth Williams - merch ifanc o Aberystwyth sydd â dyfodol disgair iawn o'i blaen.
Roedd Lisa Gwilym a Glyn Wise yno yn dod â'r goss diweddaraf o gefn llwyfan, a nhw hefyd oedd yn cyflwyno'r wobr i'r Band Cymraeg Gorau - y Sibrydion. Dwi wedi clywed am amseru gwael, ond toc pan gyhoeddwyd mai'r Sibrydion oedd yn fuddugol, doedd dim golwg o Mei Gwynedd (y prif ganwr) - felly bu'n rhaid i Dafydd Nant (y drymiwr) nôl y wobr ar ei ben ei hun!
Dyma holl enillwyr Gwobrau'r Ffatri Bop 2007 (mewn bold), gyda'r enwebiadau eraill ymhob categori:
Band Byw
Lostprophets
Manic Street Preachers
Super Furry Animals
Funeral for a Friend
Artist Newydd
Kids in Glass Houses
The Steers
Future of the left
Attack Attack
Artist Iaith Gymraeg
Euros Child
Radio Luxemburg
Sibrydion
Genod Droog
Albwm
Super Furry Animals - Hey Venus
Funeral for a friend - Tales Don't Tell Themselves
Manic Street Preachers - Send Away The Tigers
Stereophonics - Pull the Pin
Artist Rhyngwladol (Allforiad)
Katherine Jenkins
The Automatic
Lostprophets
Funeral For a Friend
Digwyddiad Byw
The Full Ponty
Green Man
Metro Weekender
Sesiwn Fawr Dolgellau
Perfformiad 'Guest List'
Lethal Bizzle
Just Jack
Enemy
Friends Electric
Band Gorau
Lostprophets
Stereophonics
Manic Street Preachers
The Automatic
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.