麻豆社

Dyfodol Celt a Gilespi

Llun gan Hatti Wray

Pwy yw GALATIA?
Mae Radio Cymru wedi derbyn copi cynnar o CD gan super-group newydd o ardal Bethesda o'r enw GALATIA sy'n cynnwys rhai o s锚r mwya' amlwg y s卯n gerddoriaeth dros y degawdau diwethaf.

Galatia yw gr诺p newydd Martin Beattie (cyn-ganwr Celt), Si么n Jones (cyn gitarydd Celt, Anrhefn a Maffia), Neil Williams (Maffia), Gwyn Jones (cyn ddrymiwr Maffia a'r Anrhefn) ac Owain Arwel (Anweledig) ac, yn 么l y datganiad, mae Martin Beattie a Si么n Jones erbyn hyn wedi gadael Celt.

Mae Galatia yn brysur yn cyfansoddi mwy o ganeuon newydd a bydd CD yn cael ei ryddhau yn ystod yr haf. Gig cyntaf y band fydd mewn noson arbennig ym mhafiliwn Sioe M么n yn Gwalchmai ar Fawrth 1af gyda Frizbee, Bryn F么n a'r band, Elin Fflur, Rhys Meirion, Taliah a Brigyn. am fanylion llawn y gig.

Ond i'r rheiny ohonoch chi sy'n dechrau poeni am ddyfodol Celt - un o fandiau mwya' poblogaidd Cymru, mae gan C2 newyddion da! Fe allwn ni ddatgelu bod Celt wedi bod yn y stiwdio yn recordio caneuon newydd fydd yn cael eu rhyddhau yn ystod yr haf gyda Steven Bolton yn canu a neb llai na Alwyn y drymiwr hefyd yn canu ar ambell i drac!

Gilespi'n gorffen...
Gr诺p sydd newydd gadarnhau eu bod wedi rhoi'r ffidil (neu'r fiola) yn y to yw . Yn 么l y datganiad - "pythefnos wedi i Grwndi'r Gath y Pysgodyn Aur farw, cyhoeddodd Gilespi na fydd y band yn parhau mwyach. Mae'r band yn ddiolchgar iawn i bawb a'u cefnogodd ers 2002."

Yn 么l Sionedwyn Bowen, aelod o'r band, "Doedd dim pwynt cario 'mlaen ar 么l marwolaeth Grwndi a dweud y gwir. Dydy bywyd ddim fel petai yr un fath. Mae hi'n gyfnod trist ac anodd."

Dywedodd Bethan Jenkins, chwaraewraig fiola Gilespi, "Da ni'n gwneud hyn i Deian oedd yn arfer gweithio i'r Cymro. Dan ni'n gynyddol ymwybodol mai'r unig bwynt i Gilespi oedd ei blesio fe (neu trio ei blesio e). Yn amlwg, doedden ni ddim yn gweud rhagor am ei fod e am i ni fod yn fwy caled, yn fwy ryff and redi, yn fwy gwleidyddol ac yn mwy brwnt. Sori Deian."

Heddwch i lwch Gilespi...

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.