Â鶹Éç

Albym newydd Euros

Euros Childs

Mae Euros Childs yn ace. Dyna ein barn ni yn C2, Radio Cymru beth bynnag, felly ryn ni'n edrych mlaen yn fawr at y 5ed o Fawrth, pan fydd cyn-aelod Gorky's Zygotic Mynci yn rhyddau ei ail albym unigol.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei albym gynta, Chops ma na ddisgwyl mawr am Bore Da - ei ail gasgliad unigol. Gafodd yr albym ei recordio mewn 12 diwrnod yn stiwdio Bryn Derwen ac fe gafodd Euros gymorth y cerddorion Peter Richardson o Topper a Gorky's ar y dryms, Meilyr Jones o Radio Lux ar y bas, Dylan Hughes o Radio Lux ar yr organ a'n cyfaill-oll Alun Tan Lan ar y gitâr

Ma bob un o'r 12 trac ar yr albym yn Gymraeg ac fe gafodd y trac Bore Da ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf erioed ar raglen Huw Stephens ar C2, Radio Cymru. Mi gewch chi glywed mwy o'r traciau oddi arni dros yr wythnosau nesaf ar C2.

Dyma restr o'r traciau;

  • Bore Da
  • Siwgr Siwgr Siwgr
  • Henry A Matilda Supermarketsuper
  • Ar Lan Y Mor
  • Twll Yn Yr Awyr
  • Dechrau'r Diwedd
  • Cwtsh
  • Blaidd Tu Fas Y Drws
  • Warrior
  • Sandalau
  • Roedd Hin Nofio Yn Y Bore Bach
  • Aur A Haul

Mi fydd Euros ar daith i hyrwyddo'r albym yn ystod mis Chwefor a Mawrth - cliciwch i weld rhestr gigs C2. Fydd criw C2 i gyd yn gig y Point (ond peidiwch a gadael i hynny roi chi off). Welwn ni chi yna!

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.