Main content

Gwenllian Grigg

Ym mhentre Talgarreg ger Llandysul yng Ngheredigion y cafodd Gwenllian ei magu, gan fynychu ysgol gynradd y pentre ac ysgolion uwchradd Aberaeron a Dyffryn Teifi. Ar 么l graddio o Brifysgol Cymru Aberystwyth, bu'n gwirfoddoli gyda mudiad yr Urdd mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Slofenia am flwyddyn. Dechreuodd weithio i adran newyddion 麻豆社 Cymru ym 1998 a bu'n cyflwyno'r rhaglen newyddion wythnosol i ddysgwyr, Yr Wythnos, am bum mlynedd. Mae'n cyflwyno'r Post Cynta ar foreau Sadwrn yn ogystal a chyflwyno'r rhaglen yn ystod yr wythnos yn gyson.