Main content

Vasyl Solodkyy

Tenor from Ukraine - 32 years old.

Vasyl Solodkyy from Ukraine

Performing Una furtiva lagrima from L'elisir d'amore by Donizetti.

I started my musical life in Ternopil at the age of 6, as a pianist. I moved to Italy aged 16 as my passion shifted to the world of opera. In 2017 I started voice studies with Valeria Esposito (winner of Cardiff Singer 1987), and in 2018 was admitted to the Verdi Academy at Teatro Regio in Parma. Subsequently I became one of the soloists of the Luciano Pavarotti Foundation in Modena.

I won third prize in the opera section of the 2022 Renata Tebaldi international singing competition in San Marino.

Since 2019, I’ve performed on several stages, including Macerata Opera Festival, Teatro Regio Parma, Teatro Lirico Cagliari, Wexford Opera Festival, Donizetti Opera Festival and Teatro La Fenice. In 2021 I sang the role of Uriel in Die Schöpfung, conducted by Fabio Luisi at the Valle d'Itria Festival. In 2022 I made my debuts as Alfredo La traviata at the Immling Festival of Halfing, as Tom Rakewell The Rake's Progress at Staatstheater Mainz and as a court boyar in Boris Godunov at Teatro alla Scala in Milan.

My future engagements include Fenton Falstaff in the 2023 Verdi opera festival in Parma.

I dedicate my free time to my family, I'm very fond of rock and especially heavy metal music, I love improvising on the piano and sometimes I lock myself in the garage all day to build a piece of furniture or to fix things.

Vasyl Solodkyy

Tenor, 32 oed, Wcráin

Dechreuais fy mywyd cerddorol yn Ternopil yn 6 oed, fel pianydd. Symudais i’r Eidal yn 16 oed wrth i fy niddordeb symud i fyd opera. Yn 2017 dechreuais astudiaethau llais gyda Valeria Esposito (enillydd Canwr y Byd Caerdydd yn 1987), ac yn 2018 cefais fy nerbyn i Academi Verdi yn Teatro Regio yn Parma. Yn dilyn hynny, fe wnes i ddod yn un o unawdwyr Sefydliad Luciano Pavarotti yn Modena.

Enillais y drydedd wobr yn adran opera cystadleuaeth ganu ryngwladol Renata Tebaldi yn San Marino yn 2022.

Ers 2019, rwyf wedi perfformio ar sawl llwyfan, gan gynnwys Gŵyl Opera Macerata, Teatro Regio Parma, Teatro Lirico Cagliari, Gŵyl Opera Wexford, Gŵyl Opera Donizetti a Teatro La Fenice. Yn 2021 fe wnes i ganu rôl Uriel yn Die Schöpfung, dan arweiniad Fabio Luisi yng Ngŵyl Valle d’Itria. Yn 2022 fe wnes i ymddangos am y tro cyntaf fel Alfredo yn La traviata yng Ngŵyl Immling yn Halfing, fel Tom Rakewell yn The Rake’s Progress yn Staatstheater Mainz ac fel un o foiariaid y llys yn Boris Godunov yn Teatro alla Scala yn Milan.

Mae fy ymrwymiadau yn y dyfodol yn cynnwys Fenton yn Falstaff yng ngŵyl opera Verdi yn Parma yn 2023.

Rydw i’n treulio fy amser rhydd gyda fy nheulu, rydw i’n hoff iawn o gerddoriaeth roc ac yn enwedig cerddoriaeth metel trwm. Rydw i wrth fy modd yn canu'r piano’n ddifyfyr ac weithiau rydw i’n cloi fy hun yn y garej drwy’r dydd i adeiladu darn o ddodrefn neu i drwsio pethau.