Cacen siocled a betys Sian Rivers
Rysait cacen siocled a betys Sian Rivers.
Rysait cacen siocled a betys Sian Rivers.
Cynhwysion :
250g siocled plaen
3 wy mawr
200g siwgr muscofado ysgafn
100ml olew blodau haul
1 llwy de o rin fanilla (vanilla essence)
100g blawd codi
1/2 llwy de soda pobi
1/2 llwy de powdwr pobi
50g o almwn mân (ground almond)
250g o fetys amrwd (beetroot)
Ar gyfer yr eisin :
150g siocled plaen
100g siwgr eisin
100g hufen sur (soured cream)
Dull :
1. Cynheswch y popty i wres o 180gradd/fan160gradd/nwy4
2. Taenwch ychydig o fenyn y tu fewn i dun pobi crwn 22cm, a gorchuddiwch y tun â phapur pobi
3. Rhowch 250g o siocled plaen wedi'i dorri mewn powlen a'i osod i doddi ar ben sosbanaid o ddwr sy'n mudferwi. Toddwch y siocled yn araf nes ei fod yn llyfn, yna'i adael i oeri
4. Rhowch 3 wy mawr, 200g siwgr muscovado ysgafn a 100ml o olew blodyn haul mewn powlen fawr a'i cymysgu'n dda am tua 3 munud efo chwisg drydan, tan fydd y gymysgedd yn llyfn
5. Ychwanegwch 1 llwy de o rin fanila, yna hidlwch 100g o flawd codi ar ei ben yna 1/2 llwy de o soda pobi, 1/2 powdwr pobi, 50g o almwn mân, a'u cymysgu efo'i gilydd
6. Gan ddefnyddio pâr o fenyg rwber i warchod eich bysedd rhag staenio, gratiwch 250g o fetys amrwd, yna'i wasgu i waredu'r hylif. Plygwch y betys i mewn i'r gymysgedd gyda'r siocled wedi'i doddi, nes ei fod wedi'i gymysgu'n llwyr
7. Arllwyswch y gymysgedd i mewn i'r tin a'i bobi am 50/60 munud. Gorchuddiwch y gacen â ffoil os ydi hi'n brownio'n rhy sydyn
8. Pan fydd sgiwer yn dod allan o'r gacen yn lan, mae hi'n barod. Gadewch i'r gacen oeri am ychydig, yna'i rhoi ar rac i oeri'n llwyr
9. Ar gyfer yr eisin, rhowch 150g o siocled plaen mewn powlen a'i osod ar ben sosban o ddwr sy'n mud-ferwi
10. Pan fydd wedi toddi, gadewch i oeri ychydig yna ychwanegu 100g o siwgr eisin a 100g o yfen sur nes fod yr eisin yn drwchus ac yn hufennog.
Taenwch yr eisin dros ben ac ochrau'r gacen a'i gweini
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Blas
-
Chutney Wendy Brynllech
Hyd: 05:03