Nan Tan Llan - Nan a'i Fan
Ers amser, mae Nan wedi bod yn ysu am weld y byd. Gyda'r plant bellach yn oedolion, does dim byd i'w rhwystro nawr.
Ers amser, mae Nan wedi bod yn ysu am weld y byd. Gyda'r plant bellach yn oedolion, does dim byd i'w rhwystro nawr...
Nan Tan Llan:
Yipee! Dwi wedi cael fy 'camper fan' o'r diwedd. Dwi wedi bod yn breuddwydio am gael un ers blynyddoedd, ond roedd angen yr arian ar gyfer pethau eraill cyn hyn, fel magu'r plant; Huw ac Angharad.
Ges i'r ddau fach pan o'n i'n ifanc iawn. Es i lawr i Gaerdydd i wneud fy hyfforddiant nyrsio, cyfarfod fy ngwr, priodi, a chael plant.
Pan chwalodd y briodas, dyma ddod n么l adra i Lanefydd at Mam a Dad a'n chwaer, Eirian. Amser anodd a di-galon i ddechra', ond roedd y plant yn fy nghadw i fynd.
Wnes i ddechrau fy hyfforddiant nyrsio unwaith eto, gweithio shifts - ac er i fi golli ambell i foment bwysig pan oedd y plant yn tyfu fyny; o'n i'n lwcus iawn bod Mam a Dad yno i edrych ar eu holau.
Cafodd Huw ac Angharad eu magu fel fi, helpu ar y fferm, mynd i'r ysgol yn Llan, a mynd i'r capel... Wel weithiau, pan oedd Nain yn mynnu!
Erbyn heddiw, mae Huw ac Angharad yn 22 a 23 oed gyda bywydau eu hunain. A dwi'n edrych ar 么l Moli y ci dyddiau 'ma - mae hi'n well cwmni nag unrhyw ddyn!
Fe ddaeth Moli, Huw ac Angharad efo fi i n么l y camper fan wsnos ddiwetha. Ar y ffordd yno, dywedodd Huw, 'Diolch am bopeth Mam, ond gei di bach o amsar i ti dy hun rwan'. A dywedodd Angharad: 'Caru ti Mam'.
Dwi'n caru chi hefyd, ond dwi'n edrych 'mlaen i gael mynd i Morocco yn fy campar fan. Ta-ra!
Holi Nan:
Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?
Merch fferm tua 27-40 oed! Ma' gen i ddau o blant - 22 a 23 oed - a chi, Moli. Roeddwn i'n nyrs am flynyddoedd, rwan yn y coleg yn gwneud 'Holistic Theories'. Dwi'n mwynhau bwyd ac yn hoffi siarad 芒 phobl.
Beth yw pwnc eich stori?
"Camper fan" - dwi wedi ei chael hi o'r diwedd - dechreuad arall i fi. Amser i fi fy hun rwan.
Pam y dewisoch s么n am y stori yma yn arbennig?
Fi ydy'r stori.
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Diddorol iawn, llawn hwyl a sbri. Dysgais i lawer. Mae'r criw yn hyfryd. Pawb yn amyneddgar, caredig ac yn gwneud i ni deimlo'n gartrefol pob amser. Diolch yn fawr. Dwi ddim yn gwybod pryd wnai gyrraedd Morocco ond dwi'n mynd i fwynhau y siwrne!
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 麻豆社 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—麻豆社 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00