Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Keith O'Brien sy'n datgelu beth yn gwmws yw arwyddoc芒d y dyddiad '1610' uwchben drws y gwesty yn Nhrawsfynydd...
"Sawl gwaith wnes i gerdded trwy'r drws ffrynt heb roi fawr o sylw i arwyddocad 1610...?"
Keith O'Brien sy'n datgelu beth yn gwmws yw arwyddoc芒d y dyddiad '1610' uwchben drws y gwesty yn Nhrawsfynydd...
Holi Keith O'Brien:
Ers faint ydych chi wedi bod yn byw yn Nhrawsfynydd?
Rwyf wedi byw ym mhentref Trawsfynydd ar hyd fy oes. Rwyf yn briod gyda dwy ferch. Cychwynais weithio fel plymar, nawr rwy'n Uwch Swyddog Adnewyddu i Gyngor Gwynedd.
Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn datblygu cymunedau ac rwyf yn Gadeirydd ar gwmni cymunedol Traws-Newid yn y Traws ac yn Gadeirydd Is-bwyllgor Gwelliannau'r Cyngor Cymuned. Fy niddordebau yw hanes lleol, cerdded, ffotograffiaeth a'r gofod!
Beth yw pwnc eich stori?
Mae fy stori am hanes Sant a Merthyr o Drawsfynydd, sef St. John Roberts - un o'r 40 Merthyr Cymru a Lloegr a'r cysylltiad rhyngddo fe a mi. Cysylltiad agos mewn adegau gwahanol o'm bywyd cymdeithasol a gwaith a hynny'n yn ddiarwybod, oherwydd fod ei hanes yn anhysbys i lawer.
Pam fod hyn yn bwysig i chi?
Teimlais ers i mi "ail-ddarganfod" St. John Roberts ei bod yn ddyletswydd arnaf i godi ymwybyddiaeth am hogyn arall o Traws. Dyma ddyn wynebodd ei dynged fel gwron teilwng o hynafiaid bro ei enedigaeth. Fel Hedd Wyn, galwyd arno i wneud yr aberth fwyaf.
Sut aeth pethau yn y gweithdy?
Cefais brofiad bendigedig wrth wneud y stori ddigidol, roedd cyfeillgarwch ryfeddol rhwng pawb oedd yn cymryd rhan, a staff y 麻豆社 oedd yn ein hyfforddi. Dysgais sgiliau cyfrifiadurol newydd a chefais gyfle i ddatblygu fy nychymyg - edrychaf ymlaen yn fawr i'r gweithdy nesaf!
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Emily Evans - T欧 Gwyn
Duration: 02:53
More clips from 麻豆社 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—麻豆社 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00