Main content

Elin Forster - Stripio

Mae Elin Forster yn darganfod hanesion ei theulu, diolch i arferiad ei mamgu o bastio hanesion ac atgofion y flwyddyn yn saff rhwng y papur wal...

Mae Elin Forster yn darganfod hanesion ei theulu, diolch i arferiad ei mamgu o bastio hanesion ac atgofion y flwyddyn yn saff rhwng y papur wal...

Elin Forster:

Byddai hen Mamgu Evans yn dihuno am 5.30 bob bore. Weithe' byddai chwant peintio neu phapuro arni.

Rhoi trwch o baent ar ben trwch o baent arall, papur ar ben papur - pasto hanesion ac atgofion y flwyddyn yn saff rhwng y papur wal.

Roedd Anty Owa yn byw yn y t欧 hefyd. Sara oedd ei henw cywir hi. A dwi dal ddim yn siwr pam oedd pawb yn galw hi'n Anty Owa. Hen ferch fach llawn serch o'dd hi.

O'n i arfer mynd i 'stafell Anty Owa er mwyn iddi fesur hyd fy ngwallt... ac os o'dd e'n ddigon hir byddai hi'n rhoi losin i fi. Bydden i wedyn yn ca'l chwarae gyda'i bocs o bwtwns... O'dd stori fach am bob bwtwn.

O'n i'n joio mynd i weld Rhosa - dysgu caneuon ac adnodau o'r amser pan odd hi'n plentyn.... Roedd Rhosa yn blentyn fel ni unwaith eto bryd hynny.

Sai'n siwr o ble ddaeth teulu'r James yn wreiddiol. Plismon yn Efrog Newydd oedd fy hen dadcu... Cawr o ddyn gyda thraed enfawr a dyna lle daeth ei enw e' - Twm Bwts.

Bu'n rhaid iddo fe ddod adre o Efrog Newydd am fod un o ddynion Al Capone wedi saethu fe yn ei ben! Aeth y bwled yn syth trwy ben fy hen ddadcu, mas yr ochor arall a mewn i ben plismon arall... Cwympodd y plismon hwnnw'n farw.

Credai rhai nad oedd y bwled wedi gadael pen Twm Bwts a dyna pam o'dd e' mor wyllt! Mae'n debyg os oeddech chi'n edrych digon agos yn ei lygaid e, roeddech chi'n gallu gweld y bwled dal yn hedfan rownd a rownd yn ei ben!

Galwodd Twm Bwts ei blant e' ar 么l pob un talaith fuodd e ynddi'n yr UD. Washington wnaeth e alw fy nhadcu i. Dyna chi ddyn llawn hwyl - llais fel angel a iaith o'r gwter... yn canu mewn pob cystadluaeth o'dd e chwant canu ynddi. Ond wrth ei waith neu yn y capel roedd e'n joio canu fwya.

Fe wnaeth tadcu yrru car rali trwy Mecsico un tro a bu'n rhaid iddo ymladd gyda'r indiad cochion! Ma' tadcu wastad yn gwylio'r actor John Wayne ar y teledu ac ar 么l y ffilm bydde fe'n dangos i ni fel o'dd e' arfer ymladd 'da'r 'indians'.

A nawr, ar fore dydd Sadwrn, stripodd fi a Mamgu yr holl bapur a phaent oddi ar y wal. Wnaethon ni ddarganfod pob atgof a hanes o'dd hen mamgu Evans wedi pastio i mewn. Wnaethon ni eu cadw nhw'n saff unwaith eto- gyda darn newydd o bapur a chot o baent ffres.

Holi Elin Forster:

Beth ydych chi'n gwneud ar hyn o bryd Elin?

Dwi'n gweithio ac yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd - yn astudio fy ngradd yn y Cyfryngau Rhyngweithiol. Dwi'n dod yn wreiddiol o Genarth ac ma' rhan fwyaf o fy nheulu dal yn byw yn y pentref.

Ar wah芒n i fy ngwaith astudio, mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth, arlunio, mynd i'r sinema ac yfed (dim ond weithiau cofiwch!). Dwi wrth fy modd yn gwrando ar straeon - yn enwedig rhai Tadcu.

Pa fath o straeon mae'ch tadcu yn adrodd?

Pob math o straeon. Dwi wedi cael fy magu yn gwrando ar yr hanesion yma ac mae tadcu yn dipyn o gantor hefyd. Roedd hi'n anodd iawn i mi benderfynu pa straeon i ddewis ar gyfer fy stori.

O'r dechrau, roeddwn i'n gwybod fy mod i am adrodd hanes y teulu.Roedd eu cynnwys nhw mewn ffilm fer yn ffordd dda i mi ddangos rhai o'r hanesion ma.

Lle daethoch o hyd i'r lluniau?

Wnes i ffeindio'r lluniau mewn bocs gwyrdd Safeway yn atig Mamgu. Daeth yr amser chydig o amser yn n么l i ni stripio'r papur wal i lawr o furiau ei chegin. Roeddwn i'n meddwl byddai gweithio gyda'r papur wal a'r llunie yn ffordd dda o adrodd y straeon.

Mae Mamgu a Tadcu yn cadw B+B yng Nghenarth ar hyn o bryd. Felly daeth yr amser i ail-bapuro a dyna sut wnes i ddod o hyd i'r papur wal sydd yn y ffilm.

Wnaethoch chi fwynhau'r profiad o greu stori ddigidol?

Do, mas draw! Roeddwn i wedi mwynhau clywed straeon pobl arall oedd yn y gweithdy. Roedd yn gyfle hefyd i mi ddefnyddio meddalwedd mwy creadigol nag o'n i'n defnyddio o ddydd i ddydd.

Un peth doeddwn i ddim yn hoffi o'dd clywed fy llais i dro ar 么l tro wrth i mi osod y ffilm at ei gilydd! Ond, rwy'n falch nawr mod i wedi dal i fynd tan y diwedd.

Release date:

Duration:

3 minutes