Main content

Eleri Wyn Williams - Dyddiau Difyr

Trist ydi meddwl bod ochr gymdeithasol ffermio yn diflannu... Wrth edrych dros hen luniau o eiddo ei Nain, gall Eleri lai na meddwl am y gymdeithas amaethyddol a fu.

Trist ydi meddwl bod ochr gymdeithasol ffermio yn diflannu... Wrth edrych dros hen luniau o eiddo ei Nain, gall Eleri lai na meddwl am y gymdeithas amaethyddol a fu.

Eleri Wyn Williams:

Wedi benthyg y lluniau yma gan fy Nain ydw i. Allai ddim coelio gymaint mae nhw'n ei ddweud wrthof am y gorffennol. Ma' nhw'n dod 芒 hanes yn fyw o flaen fy llygaid i, er nad ydw i'n nabod hanner y cymeriadau sydd ynddyn nhw.

Trist ydi meddwl bod ochr gymdeithasol ffermio yn diflannu - lleisiau y cymeriadau drygionus yn cael eu gwthio i gefn y cof, a'r hen gelfi yn pydru yng nghornel rhyw hen gwt tywyll,llaeth.

Hyn oll sydd wedi fy ysbrydoli i geisio cyfleu pwysigrwydd hanes a'r syniad o berthyn yn fy ngwaith celf.

Diolch i'r lluniau hyn ac i fy Nain, gallaf ddefnyddio ffurfiau newydd i ddangos yr hyn rydyn ni wedi ei golli o'r gorffennol ac i edrych ymlaen i'r dyfodol mewn gobaith.

Holi Eleri Wyn Williams:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Dwi'n byw ym Mhistyll, Pen Ll欧n ac yn brysur iawn yn gwneud cwrs lefel A mewn Celf, Cymraeg a Chymdeithaseg ar hyn o bryd. Mae gen i ddiddordeb mewn Celf o oed cynnar a rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i wneud y gweithdy straeon bocs sgidiau!

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae gen i ddiddordeb mewn amaethyddiaeth a hanes y teulu. Mae hyn yn bwysig i mi a'm stori gan fy mod i'n gwneud prosiect Celf ar y newidiadau sydd yn ffermio dros y blynyddoedd ar hyn o bryd. Felly roedd y stori yn addas iawn!

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Profiad gwych! Roedd yn agoriad llygad i'r dechnoleg diweddaraf, ac yn gyfle gwych i gyfarfod pobl newydd.

Release date:

Duration:

57 seconds