Rosalyn James - Roz, Myrdd a fi
Mae Rosalyn James yn cael eu hadnabod wrth sawl enw, gyda phob un yn meddu ar ei hunaniaeth ei hun. Dyma rai o'r straeon sydd ynghlwm wrth y casgliad o enwau yma a sut mae pob enw yn datgleu rhywfaint mwy am Miss James, Drama...
Mae Rosalyn James yn cael eu hadnabod wrth sawl enw, gyda phob un yn meddu ar ei hunaniaeth ei hun. Dyma rai o'r straeon sydd ynghlwm wrth y casgliad o enwau yma a sut mae pob enw yn datgleu rhywfaint mwy am Miss James, Drama...
Rosalyn James:
Chwech wythnos - dyna faint gymerodd hi i Mam a Dad ffeindio enw i fi... Ar 么l hir aros ges i fy medyddio yn Anne Rosalyn James, fel teyrned i un hanner o'r ddeuawd enwog honno Rosalind a Myrddin. Ond, mae gen i sawl enw a sawl 'hunaniaeth' fel petai.
Dwi'n Rosalyn, Ros, Rwsalyn, Roz, Rosalyn, Rosalina, Rose a Rosie.
Ros sy'n symud wrth wrando ar orchmynion Mam a Rwsalyn yn cynhesu drwy adnabod galwad o'r teulu. Bydd hon yn dweud'i barn, colli thymer, chwerthin a crio a chadw ambell i beth yn gyfrinach; jyst rhag ofn.
Fel Roz -dwi'n fyr, bach, tawel a sal... a dwi ofn plant mawr, plant bach, merched trendi a bitshi, llygod, corrod a siwr o fod fy nghysgod fy hun!
Nawr, ma Rosalina oedd yn byw yn Como, Italia yn llawer fwy hyderus. Mae'n deall yn iawn shwt i ferwi pasta a chwcio pizza. Mae'n agored, rhydd, emosiynol ac yn hoffi fflyrtio tipyn bach - Ciao bello!
Rosalyn yw cynnyrch blwyddyn yn Ohio, ac ma'r Yankee yma'n bybli, lyfli a barus, heb son am fod yn 'tall', tyff a 'two faced'. Ma' hon yn cael 'buzz' o lefaru a gwrando ar yr 'Americanisms' - "You hanging out dude", "Hi, butt head."
Mae Rosalyn James fel y gelwid hi gan y 'theatre types' yn crefu am sylw ar y llwyfan; yn llawn mynegiant gwyllt a chyffrous ac yn dwli ymgolli yn wefr yr eiliad ddramatig.
Miss James, Miss James Drama, Miss Media... yw'r athrawes propor a pharchus. Mae Rose a Rosie yn ffrind a chariad. Yn ciwt, cynnes a chanmoladwy... Yn haerllug, di-gwilydd, diog a siwr o fod yn llawer o bethau eraill dylen i ddim s么n amdanynt!
Oherwydd y ddeuawd enwog, o Roz a Myrdd ges i'n enw, a fi'n reit falch o'r ffaith. A gallai pethe wedi bod yn waeth, gallai Mam a Dad wedi bod yn ffan o Jac a Wil!
Holi Rosalyn James:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rwy'n athrawes yn Ysgol Gyfun Abertawe ac yn byw yn Abertawe.
Beth yw pwnc eich stori?
Mae fy stori am yr enwau amrywiol yn fy mywyd. Roeddwn am s么n am y stori yma oherwydd roedd yn fodd o ddatblygu hiwmor a siarad am y profiadau pwysig yn fy mywyd.
Sut aeth pethau yn y gweithdy?
Gwych! Roedd yn gyfle arbennig i ddefnyddio technoleg mewn ffordd greadigol. Fel athrawes, roedd yn fraint o weld y disgyblion yn trafod yn aeddfed am brofiadau personol a'i drosglwyddo'n lwyddiannus yn eu straeon. Profiad bythgofiadwy!
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 麻豆社 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—麻豆社 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00