Arthur Owen Davies - Bywyd Braf
Mae Arthur Owen Davies yn hoff o edrych yn 么l dros luniau'r gorffennol a hel atgofion am rai o brofiadau'i fywyd.
Mae Arthur Owen Davies yn hoff o edrych yn 么l dros luniau'r gorffennol a hel atgofion am rai o brofiadau'i fywyd, yn cynnwys ei amser yn y llynges ar yr SS Canterbury.
Arthur Owen Davies:
Dwi'n fy wythdegau erbyn hyn. Dydw i ddim cweit mor ffit ag o'n i ond dwi'n licio cael edrych ar luniau'r gorffennol.
Y llun cynharaf sydd gen i ydy'r un ohona'i a fy chwaer, Gwladys a Ruffles y ci. Rhyw dair oed o'n i ac mae'r gwallt cyrliog bellach wedi britho a teneuo.
O'n i'n arfer gwirioni ar chwarae ffwtbol - 'outside right' - ac roedd gen i ddwy droed eitha. Buaswn ni wedi bod wrth fy modd yn cael chwarae yn yr un t卯m 芒 Michael Owen a ches i gynnig treial gyda Nottingham Forrest.
Ond ges i anaf digon cas ar fy mhen-glin a dyna ddiwedd ar hynny. Bechod, a dwi'n siwr fod Michael Owen yn siomedig hefyd!
Dyma benderfynu ymuno 芒'r llynges a chael fy mhenodi fel 'sick berth attendant' ar yr SS Canterbury. Bues i yn y llynges am bum mlynedd cyn dod yn 么l i weithio yn yr Ysbyty Meddwl yn Dinbych.
Treuliais i bron i dri deg ag wyth o flynyddoedd yn gweithio yn y lle. Er bod na lot o stigma yn gysylltiedig gyda'r ysbyty, o'n i wrth y modd yn cael gweithio yno ynghanol llond gwlad o gyfeillion a ffrindiau.
Ffeindiais wraig yno hefyd; merch o Fethel oedd yn gweithio fel nyrs. Mair, cannwyll fy llygaid, a fu'n briod gyda mi am 57 mlynedd. Mawr ydy'r hiraeth amdani.
Dydw i ddim cweit mor ffit ag yr o'n i pam o'n i'n chwarae ffwtbol, ond mae gen i gant a mil o atgofion yn fy nghadw fi'n ifanc ac ambell i lun i ail-fyw'r gorffennol.
Holi Arthur Owen Davies:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Fe'm ganwyd a'm magwyd ym mhentref Abergynolwyn yn Sir Feirionydd. Cefais fy addysg yn yr Aber ac yna yn Ysgol Ramadeg Tywyn.
Wnes i adael ardal fy mebyd a dod i Ddinbych i weithio yn Ysbyty Seiciatryddol Gogledd Cymru, cyn ymuno 芒'r llynges fel nyrs am bum mlynedd.
Dychwelyd wedyn yn '46 a threulio 38 mlynedd yn yr ysbyty cyn ymddeol, ac yn dal i fyw yn yr hen dre' hynafol yma.
Am beth mae eich stori yn s么n?
Braslun neu cipolwg ar fy mywyd i, a'i alw yn 'Bywyd Braf' -o fy ngenedigaeth hyd heddiw. Roeddwn i am adrodd y stori yma gan fy mod i yn teimlo fod dyled mawr i'm rhieni a'm teulu am yr holl gefnogaeth a chefais tra'n tyfu i fyny.
Myfi oedd "bach y nyth" - yr ieuengaf o bump - ac mae'n siwr i mi gael mwy o faldod felly. 'Bywyd Braf' oedd o i mi.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?
Cyntaf oll, mwynheais y profiad o'r gweithdy yn fawr. Credais i erioed fod cymaint o waith yn mynd i mewn i wneud stori a sgriptiau.
Dysgais bod yn gryno gyda geiriau a chadw'r cyfan o fewn terfynau cyfyngedig. Cefais ein gwefreiddio gyda'r dechnoleg newydd sydd wrth law.
Roedd y cyfan dan ddylanwad ein llaw ni ar y llygoden ac o dan gyfarwyddid trylwyr y t卯m.
Diolch i'r stor茂wyr eraill am y cyfle i ddod i'w hadnabod ac am dreulio'r amser gyda'n gilydd.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 麻豆社 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—麻豆社 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00