Owain Rhys - Tlws Pêl droed
Wedi amser yn ymarfer ar gyfer y gem fawr, mae Owain Rhys a'i sgwad pêl droed yn barod ar gyfer yr her pump-bob-ochr.
Wedi amser yn ymarfer ar gyfer y gem fawr, mae Owain Rhys a'i sgwad pêl droed yn barod ar gyfer yr her pump-bob-ochr...
Owain Rhys:
Cewch gadw Cwpan y Byd, yr FA Cup, La Liga a'r Premiership. I fi, mae'r tlws hwn yn golygu llawer mwy. Tlws pencampwyr trydedd adran nos Iau Leisure Leagues.
Cynghrair pump-bob-ochr galed yng Nghaerdydd yw Leisure Leagues. Ymunon ni, FC Paradiso, yn y flwyddyn 2001, a cholli'r gem gyntaf o 25-0. Ond yn raddol, daethom yn fwy heini, dechrau chwarae fel un a'r tlws yw pinacl ein hymdrechion.
Oherwydd ein bod yn draddodiadol yn cael peint wedi pob gem, mae'n cynrychioli mwy na phêl droed. Mae'n gofnod o gyfeillgarwch, o gariad, o gyfnod. O esgyrn torredig. O briodasau a thor-priodasau. O eni plant.
Mae fy nyddiau i o ennill drosodd. Erbyn hyn dwi'n chwarae gyda dawnswyr gwerin!
Ond mae gen i'r tlws. A'r atgofion.
Holi Owain Rhys:
Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun.
Fy enw yw Owain Rhys, ac rwy'n Guradur Bywyd Cyfoes yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Rwyf yn fy nhridegau (hwyr), yn briod â Lleucu, ac mae gennym un plentyn, Gruffudd. Rwy'n hoffi barddoni yn fy amser sbar.
Beth yw pwnc eich stori?
Mae fy stori am dlws pêl droed ag enillais tra'n chwarae i sgwad pump bob ochr. Mae'n fy atgoffa o'r cyfnod, o'r cyfeillgarwch rhyngddom ac o'r troeon trwstan.
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Cefais bleser mawr yn gwneud y stori, ac rwy'n gobeithio gallu defnyddio'r dechnoleg yn fy ngwaith bob dydd.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren Wîb
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Â鶹Éç Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Â鶹Éç Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00