Main content

Lowri Jenkins - Y Copi

"Pan o'n i'n blentyn roedd cerddoriaeth Dad yn llenwi'r t欧..."

O gofio am gariad ei thad at gerddoriaeth, mae Lowri yn bwrw ati i ddysgu o'i lyfr copi.

Lowri Jenkins:

Ar biano Dad mae'r copi cerddoriaeth yma'n eistedd. Un o'i hoff ganeuon.

Ar y copi mae ei ysgrifen a'i ymdrech i gyfieithu'r alaw Saesneg yma i'r Gymraeg.

Mae'n atgoffa i ohono - dyw e ddim o gwmpas rhagor; bu farw bum mlynedd yn 么l.

Pan o'n i'n blentyn roedd cerddoriaeth Dad yn llenwi'r t欧. Roedd yn chwarae'r piano, yr accordion ac yn canu gyda llais tenor hyfryd.

Mae piano Dad yn biano i fi erbyn hyn. Fe gymerodd hi bedwar dyn awr a hanner i gael e mewn i'r t欧 ac roedd rhaid tynnu dau ddrws i ffwrdd. Ond roedd hi'n bwysig i mi gael y piano ac mae wedi bod werth bob trafferth.

Wnes i roi i fyny ar ddysgu pan oeddwn i'n bymtheg oed ond nawr rwy'n cael gwersi eto. Rhyw ddydd dwi'n mynd i chwarae'r alaw i fy mhlant i.

Release date:

Duration:

1 minute