Main content

Gwyneth Glyn - Y Ferch Fach Las

Ydych chi erioed wedi derbyn neges mewn llythr cyfrinachol wrth y Tylwyth Teg? Ni welodd Gwyneth Glyn erioed un o'r tylwyth teg, ond mi wnaeth ei Mam...

Ydych chi erioed wedi derbyn neges mewn llythr cyfrinachol wrth y Tylwyth Teg?

Gwyneth Glyn:

Welish i 'rioed un o'r tylwyth teg, ond mi ddaru Mam. Pump oed oedd hi, yn sefyllian wrth y bloda' tri-lliw-ar-ddeg yng nghartra' Lady Megan Lloyd George, pan welodd hi un.

Un binc gola' o'i choryn i'w sawdl, heb gerpyn amdani heblaw am ei h'adenydd bach; ond doedd yna ddim byd yn anweddus amdani chwaith.

"Dad! Lady Megan!" medda' Mam, "Sbiwch, ma' 'na ff锚ri yn fama!"

"O!" medda' Lady Megan, "ma' gardd Bryn Awelon yn llawn o fairies!". Ond pan drodd Mam yn 么l i sb茂o, roedd y dylwythen deg wedi diflannu.

Hen siom ges 'inna, pan gyrhaeddodd yna'r un llythyr cyfrinachol oddi wrth fy ffrind Llio, a ninnau wedi cytuno i adael rhai i'n gilydd mewn bwlch bach yn y wal.

Ond un diwrnod, mi ddoes i o hyd i lythyr bach bach yn llechu yn y guddfan. Oedd o wedi'i gyfeirio at 'y ferch fach las'. Os gwrandewch yn astud mi glywch chi'r chwerthin yn nail y coed a'u lleisiau ar yr awel... ac wedi'i arwyddo 'y T.T.'

Mi fuodd y tylwyth teg a finna'n llythyru'n ddygyn bob Hydref am ryw bedair mlynedd. O'n i'n paratoi gwledd flynyddol iddyn nhw o dan y goeden eirin, ac yn eu rhybuddio nhw am noson T芒n Gwyllt, oedd yn codi ofn arnyn nhw braidd.

Un Hydref dyma fi'n aros... ac aros... ac aros am lythyr gan y bobol fach ond ddaeth na'r un.

Ma' 'na rei yn dal i ddod i'n gardd ni, i sefyll dan y goeden eirin a chwilio am dylwyth teg.

Oes yna ffasiwn beth, meddai chi? Wel oes siwr. Dyma nhw yn fan hyn... a fan hyn... a fama. Y tylwyth teca' un, ydi'ch tylwyth chi eich hun.

Holi Gwyneth Glyn:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Awdures, dramodydd ac athronydd (rhan amser!) o Eifionydd. Rwy'n gweithio'n rhyddgyfrannol o adra', pan nad yn dianc i deithio a barddoni.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Profiad fy mam a minnau o'r T.T. - y tylwyth teg. Dwy stori wedi eu plethu ynghyd ydyn nhw, yn dangos sut mae straeon yn cael eu hetifeddu gan y genhedlaeth flaenorol.

Roeddwn i am s么n am y stori yma yn arbennig am ei bod hi'n gymaint o ran ohona i. Rhywbeth nad ydw i'n ei chymryd yn ganiataol, fel fy ngwallt neu fy nannedd! Peth da oedd ei rhoi ar gofnod a chael ei rhannu 芒 phobol eraill.

Sut aeth pethau yn y gweithdy?

Difyr eithriadol. Roedd y bobol y ces i'r cyfle i weithio 芒 nhw mor hynaws 芒'r dechnoleg - ond dim hanner mor gymhleth!

Release date:

Duration:

3 minutes