Main content

Lowri Wyn Evans - Y foment 'roedd Ystalyfera yn fach

Doedd Lowri Wyn Evans heb ystyried pa mor falch a fyddai o weld ei brawd bach yn sefyll ar gae y Stadiwm y Mileniwm...

Doedd Lowri Wyn Evans heb ystyried pa mor falch a fyddai o weld ei brawd bach yn sefyll ar gae y Stadiwm y Mileniwm mewn gornest Cwpan y Ddraig Goch...

Lowri Wyn Evans:

Y foment roedd pawb wedi disgwyl ymlaen ato fe - y g锚m. Ystalyfera yn erbyn Whitchurch. Y lleoliad - Stadiwm y Mileniwm a'r achlysur - Rownd derfynol Cwpan y Ddraig Coca-Cola.

Roedd yr awyrgylch yn llawn tensiwn a chyffro a phawb yn disgwyl ymlaen at y g锚m... a jyst cyn y 'cic-off' aeth pawb yn dawel.

Roedd y pitsh yn berffaith; y t么 ar gau a'r sgr卯n fawr yn dangos enwau'r bechgyn... Ac ymhlith yr enwau oedd Rhodri Evans, fy mrawd bach i. Ac er taw 'sub' oedd e, doedd dim ots 'da fi - roedd e dal yn chwarae ac o'n i'n falch ohono fe.

Dwi ffaelu dweud fel o'n i'n teimlo, ond roeddwn i'n llawn balchder dros fy mrawd. Rydyn ni yn ffraeo! Weithie, pan rydyn ni'n gwylio teledu, mae Rhodri yn dod mewn ac yn newid y sianel - ma' hwnna'n hala fi mor grac.

Ond y diwrnod hwn yng Nghaerdydd, o'n i mor falch ohono fe yn chwarae yn y Stadiwm. Pan gafodd Rhodri cais wedi ei gwrthod, bu bron i mi fynd ar y cae a bwrw'r ref! Ond dywedodd fy mamgu, "Stedda' lawr a phaid bod yn wirion!"

Collodd y t卯m y g锚m, ond pan aeth Rhodri i gasglu ei fedal, roeddwn i'n mor falch ohono fe. O'dd e mor hapus ac o'n i yn hefyd. Doedd dim ots 'da fi am y cais oedd wedi ei gwrthod.

Pan welais i Rhodri ar 么l y g锚m, dangosodd ei fedal i fi ac roedd e'n amlwg cymaint oedd e' wedi mwynhau a'i fod yn golygu popeth iddo fe.

Rydyn ni dal yn cwympo mas, ond y diwrnod hwnnw, o'n i mor falch o Rhodri ac am unwaith wnaethon ni ddim ffraeo!

Holi Lowri Wyn Evans:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n hoff iawn o ddrama a cherdd a dwi'n hoffi siarad Ffrangeg. Fy hoff actor yw Owen Wilson a fy hoff ffilm yw 'Bruce Almighty'.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae'r stori am fy mrawd a phan aeth e' i'r stadiwm yng Nghaerdydd a pha mor falch o'n i ohono fe. Dewisais i siarad am hyn oherwydd roedd e ar fy meddwl i ac roedd e'n foment mor arbennig.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Roedd e'n hwyl fawr i wneud a dwi wedi dod i ddysgu llawer iawn am gyfrifiaduron. Mae e'n brofiad byddai'n cofio am oesoedd.

Release date:

Duration:

2 minutes