Main content

Glenys A Jones - Llwybr y G芒n

Mae Glenys Jones wedi canu ers yn ddim o beth. Ond doedd ei mam ddim yn rhy hapus!

Mae Glenys Jones wedi canu ers yn ddim o beth. Ond doedd ei mam ddim yn rhy hapus!

Glenys Jones:

Y diwrnod ges i ngeni, daeth fy modryb draw atom i helpu Mam, a tra'n n么l d诺r glan o'r ffynnon yn ystod oriau man y bore, clywodd g么r y wig yn canu'n swynol, a dyna mae'n debyg ddechrau ar fy nhaith hyd llwybr y g芒n.

Doedd gan Mam ddim bwriad o gael ei merch yn canu; roedd ganddi hi fwy o ddiddordeb yn fy ngweld i'n dysgu adrodd. Ond canu oedd fy nghariad cyntaf.

Pan yn dair oed, o'n i'n mynychu'r Ysgol Sul yng nghapel y Derwen, ac yno mewn eisteddfod, yn 1937, y cefais y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth canu emyn i rai dan chwech oed.

Un dyn fu'n bwysig yn meithrin fy nghariad at gerddoriaeth oedd y diweddar annwyl Christmas Evans o Gorwen. Byddwn yn cael dwad o'r ysgol yn gynnar er mwyn dal y bws i fynd draw i'w gartref.

Ar benwythnosau byddai fy nhad yn mynd 芒 fi yn yr hen Austin Seven i bob cwr o'r wlad i gystadlu yn y gwahanol eisteddfodau a gynhaliwyd mewn capeli, pebyll ac ambell i sied wair!

Mae canu'n rhan bwysig o'm mywyd, a dwi'n dal i fwynhau cystadlu yn yr eisteddfodau. Fel teulu, rydyn ni'n cynnal nosweithiau cerddorol ar gyfer gwahanol fudiadau a chymdeithasau.

Mae Hari bach yn dair oed erbyn hyn ac eisoes wedi dechrau troedio hyd llwybr y g芒n. Dim ond gobeithio y caiff gymaint o bleser a mwynhad a'i nain.

Holi Glenys A Jones:

Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?

Gwraig fferm wedi ymddeol, edrych ar 么l y teulu a fy wyrion. Gwneud gwaith gwirfoddol unwaith yr wythnos. Dwi'n mwynhau fy hun yn cystadlu mewn Eisteddfodau ar
benwythnosau. Dwi'n hoffi ysgrifennu straeon byrion, darllen a cherddoriaeth ac ambell i beth arall hefyd.

Beth yw pwnc eich stori?

Am yr amser y cychwynais fy hoffter o ganu yn ifanc iawn hyd heddiw.

Pam y dewisioch s么n am y stori yma yn arbennig?

Mae'n debyg mai edrych yn 么l rwyf wedi ei wneud; teithio ar lwybr y g芒n a chael cyfle i ddwad 芒 lluniau o'r Albwm. Hel atgofion melys am yr amser a fu ac sydd yn parhau gyda'r wyrion yn dilyn eu Nain.

Release date:

Duration:

2 minutes