Main content

Garffild Lloyd Lewis - Ync

Stori deimladwy am sut ddaeth Garffild Lloyd Lewis i wybod am ddigwyddiad allweddol ym mywyd ei ewythr annwyl, 'Ync'. Stori na ddaeth Garffild ddod i wybod amdani tan iddo ddarganfod hen lyfr copi.

"Wnes i ddim dod i wybod am y stori honno, tan ar 么l iddo fo farw."

Dyma stori deimladwy am sut ddaeth Garffild Lloyd Lewis i wybod am ddigwyddiad allweddol ym mywyd ei ewythr annwyl, 'Ync'. Stori na ddaeth Garffild ddod i wybod amdani tan iddo ddarganfod hen lyfr copi.

Holi Garffild Lloyd Lewis:

Beth yw pwnc eich stori ddigidol?

Mae'n seiliedig ar ddyddiadur hen ewythr i mi o Drawsfynydd, gafodd ei glwyfo'n ddifrifol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd fel taid i mi, yn fy nysgu i bysgota a chwarae peldroed - ond doedd ei wyneb ddim yn edrych yn naturiol, er nad oedd hynny erioed wedi fy mhoeni pan yn blentyn.

Wedi i Yncl Ellis farw, cefais ddyddiadur/hunangofiant o'i gyfnod yn y fyddin a hanes ei glwyfo. Roedd yn stori ryfeddol.

Sut aeth pethau yn y gweithdy?

Roedd y profiad yn werthfawr iawn i mi. Rwyf wedi arfer 'sgwennu 'newyddion', ond roedd yn braf cael ymestyn ac agor fy meddwl i syniadau ffres a dysgu sgiliau newydd.

Roedd hefyd yn brofiad emosiynol gwneud profiadau Yncl Ellis yn rhai 'cyhoeddus' iawn. Roedd hefyd yn gychwyn ar rywbeth.

Mae'n fwriad gennyf rwan i geisio cael cyhoeddi'r dyddiadur a'r lluniau, neu eu haddasu i fod yn ddrama neu ffilm. Wedi cael 'Cipolwg', rwyf rwan yn gobeithio cael cyfle i gyfleu'r 'darlun cyfan'.

Beth yw eich hanes chi Garffild?

Cefais fy ngeni a fy magu ym mhentref Trawsfynydd. Ar 么l cwblhau arholiadau Lefel A yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, mi es i weithio cyn mynychu cwrs gradd mewn Cyfathrebu yn yr hen Goleg Normal ym Mangor ar ddechrau'r wythdegau.

Cyn cwblhau fy ngradd, cefais gynnig gwaith fel newyddiadurwr gyda 麻豆社 Cymru yng Nghaerdydd ac rwyf wedi gweithio i Adran Newyddion y 麻豆社 ers hynny.

Release date:

Duration:

3 minutes