Main content

Rowena Jones - Llyfr Sgetsus

Er bod gan yr arlunydd, Rowena Jones, gywilydd ar ambell i dudalen o'i llyfr braslunio, mae stori i bob darlun. Mae'r llyfr sgetsus yma fel hen ffrind.

Er bod gan Rowena gywilydd ar ambell i dudalen o'i llyfr braslunio, mae pob tudalen yn gofnod pwysig. Mae'r llyfr sgetsus yma fel hen ffrind.

Rowena Jones:

Fel dwi'n sbio drwydda fo ma' pob tudalen yn dod 芒 atgofion yn 么l i fi.

Rydw i a fy ffrind wedi cael amsar da. Mae o wedi bod yn ffordd i fi hel meddyliau a darganfod syniadau newydd i ehangu fy ngwaith celf.

Ond fel bob ffrind, 'da ni ddim yn cytuno bob tro. Ma 'na ddarnau o waith sy'n ddiawledig o wael yma! Ac mae gen i gywilydd o ambell un. Ond ta waeth.

Ma' 'na ffrindiau newydd wedi dod i'r golwg. Ond ma'r hen lyfr sgetsus 'ma dal yn bwysig i atgoffa fi o be' dwi 'di gwneud a sut mae fy ngwaith wedi symud ymlaen yn ei flaen i be ydi o heddiw.

Holi Rowena Jones:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rowena yw fy enw i a dwi'n byw ym Mhorthaethwy, Ynys M么n. Dwi newydd raddio o Brifysgol yn astudio arlunio a dwi'n ceisio sefydlu fy hun fel artist proffesiynol.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae fy stori i am y llyfr sgetsus cyntaf i fi gwblhau ar yr adeg o'n i wedi gwneud y penderfyniad i astudio celf yn llawn amser. Dwi'n s么n am y llyfr fel hen ffrind ac am sut mae e wedi fy helpu i weld datblygiad fy ngwaith heddiw.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Dwi wedi cael amsar da iawn yn creu'r stori hon. Mae wedi dangos i mi bod yna lawer iawn yn medru cael ei adrodd mewn munud - boed hynny yn straeon emosiynol, trist neu hapus. Hefyd, mae'n dangos fod gan llawer o bobl stor茂au bach diddorol i'w hadrodd.

Release date:

Duration:

1 minute