Main content

Delyth Rees - Y Cwilt

Wrth edrych ar gwilt clytwaith o eiddo ei mamgu, mae meddyliau Delyth Rees yn troi at ei pherthnasau. Dyma ddechrau ar daith dros f么r yr Iwerydd i ddod o hyd i'w chefnither Susanne...

Wrth edrych ar gwilt clytwaith o eiddo ei mamgu, mae meddyliau Delyth Rees yn troi at ei pherthnasau. Dyma ddechrau ar daith dros f么r yr Iwerydd i ddod o hyd i'w chefnither Susanne...

Delyth Rees:

Dwy chwaer a m么r mawr yr Iwerydd yn eu gwahanu am weddill eu hoes. Llifodd dagrau Hannah i inc ei Chymraeg, gan adael i'w merch orffen ei llythyr yn y Saesneg. Felly fe weithiodd gwilt a'i anfon i Sarah Ellen yng Nghymru.

Trysorodd fy nain y rhodd a bu'n gysur iddi pan roedd hiraeth yn bygwth ei llethu.

Pan dderbyniodd Sarah Ellen lun o Susanne, wyres Hannah yn yr Unol Daleithiau, ceisiodd fy annog i ysgrifennu ati, ond roedd gen i bethau amgenach i'w gwneud y bryd hynny.

Ar 么l dyddiau Nain, daeth y cwilt i gartref fy mam ac yn ei dro i'm meddiant innau.

Dyna pryd ddechreuais i feddwl am Susanne. Tybed a oedd hi'n dal yn fyw? A wyddai hi amdana i? Chwiliais a chwiliais amdani, ond yn ofer.

Fodd bynnag, un dydd canodd y ff么n, "Hi there!" clywais lais merch ac yn Saesneg, "Rwyf wedi cael hyd i gartref fy nhad, Idwal, yn Llanbrynmair ac mae'r perchennog yn cofio i chi ddangos hen lun o'r t欧 iddo."

Aeth ias lawr fy asgwrn cefn, "Felly, merch Idwal ydach chi."
"Ie."
"Ai chi yw Susanne?"
Distawrwydd.

Yna... "Pwy da' chi?"
"Eich cefnither," gwaeddais, "Roedd ein neiniau yn chwiorydd!"

Roedd Susanne wedi ei syfrdanu gan na wyddai am unrhyw deulu yn y byd heblaw am ei chymar a'i phlant.

Ond nawr, dyma hi yn darganfod teulu estynedig - teulu fy chwaer a minnau.

Treuliasom wyliau hapus yn dod i adnabod ein gilydd yn ein cartrefi yng Nghymru ac yn Florida.

Ond y tro cyntaf hwnnw, wrth daenu'r cwilt dros y gwely i Susanne a'i g欧r, Don, gwyddem fod dwy chwaer gyda'i gilydd yn rhywle yn fodlon iawn.

Dwy chwaer yn wylo dagrau o lawenydd y tro hwn, uwchben y cwilt.

Holi Delyth Rees:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Cefais fy ngeni a'm magu ym Machynlleth ym Mhowys ac er i mi fel athrawes grwydro o'm cynefin, rwy'n 么l yn fy milltir sgw芒r ac yn ffodus o gael fy mhlant a'm hwyrion yn agos.

Wedi ymddeol, mae gen i ddigon o amser i arlunio, garddio, darllen, cwiltio a hel achau!

Am beth mae eich stori yn s么n?

I ni'r Cymry, mae teulu yn bwysig ac mae'r stori hon yn ceisio dangos y chwalfa sy'n digwydd o hyd... a'r llawenydd o deimlo agosatrwydd eto - yr 'adnabod' hwn sydd yn nodweddiadol ohonom.

Mae'r stori yn fy atgoffa o'r angen i gynnal a chadw gwreiddiau.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Diolch am yr holl amynedd a'r cyfle i werthfawrogi yr holl waith sydd y tu 么l i greu ffilm.

Release date:

Duration:

3 minutes