Main content

Paula Stoddard Jones - Cariad a Phriodas

Paula Stoddard Jones sy'n bwrw golwg ar gariad a phriodas trwy stori perthynas ei rhieni, Nancy ac Eddie Stoddard sydd wedi bod yn briod ers 1960.

Mae rhieni Paula Stoddard Jones, Nancy ac Eddie Stoddard wedi bod yn briod ers 1960. Dyma eu stori nhw trwy lygaid eu merch. Mae hi'n cofio magwraeth llawn cariad ac hapusrwydd ac yn gobeithio y caiff ei mab, Cai, yr un hapusrwydd yn ei fywyd priod yntau.

Paula Stoddard Jones

Mae fy rhieni, Nancy ac Eddie Stoddard, wedi bod yn briod ers 1960 ac yn hapus iawn. Wrth gwrs roedden nhw'n cega ac yn cwympo mas, ond doedd fy mrawd a finnau ddim yn gweld hyn yn aml. Llwyth o hygs a chariad oedd yn ein cartref ni ac roeddwn i wastad yn meddwl bod hyn yn hollol naturiol.
Pan oeddwn i'n oedolyn ac mewn cariad, ges i sioc wrth sylweddoli bod angen gweithio'n galed i gadw perthynas yn fyw.

Ffeindiais i Mel, fy ng诺r, ac wrth gwrs rydym yn ffraeo weithiau ond mae gennym ni berthynas gret. Dwi'n gobeithio bydd Cai, ein mab, yn tyfu i fyny'n gwybod bod ein priodas ni yn rhywbeth arbennig. Gobeithio hefyd fydd e'n deall os mae perthynas i lwyddo, rhaid gweithio a gweithio arni!

Dwi'n gwybod bydd ambell i dro annisgwyl ar y ffordd ond buaswn i'n licio meddwl bydd Cai, un diwrnod, mor hapus 芒 ninnau a'i Nain a'i Daid.

Holi Paula Stoddard Jones:

Allwch chi ddweud rhywfaint amdanoch hun?

Dwi'n 42, yn briod 芒 Mel ac mae gennym un mab, Cai, sy'n chwech oed a hanner! Rwyf wedi bod yn byw yn yr Amerig am chwe mlynedd tan ddiwedd blwyddyn ddiwethaf pan ddychwelom i Gymru fach.

Beth yw pwnc eich stori?

Bod cariad mewn priodas yn gorfod cael ei feithrin - peidiwch byth 芒'i gymryd yn ganiataol ei fod jyst 'am ddigwydd'!

Pam y dewisoch s么n am y stori yma yn arbennig?

Am fod fy rhieni mor hapus a finnau'n disgwyl cariad mor hawdd!

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Mwynheuais y profiad lawer mwy nag oeddwn i'n disgwyl tra'n dysgu defnyddio'r meddalwedd newydd.

Release date:

Duration:

1 minute