Abigail Elliot - Mam
Er nad ydyw hi yma bellach, mae gan Abigail atgofion byw o'i mam fu farw yn ifanc iawn. Mae'n ymhyfrydu yn y ffaith bod hi wedi cael y cyfle i'w hadnabod hi.
Er nad ydyw hi yma bellach, mae gan Abigail atgofion byw o'i mam fu farw yn ifanc iawn. Mae'n ymhyfrydu yn y ffaith bod hi wedi cael y cyfle i'w hadnabod ac yn arbennig y fraint o'i chael hi'n fam iddi. Dyma ei stori deimladwy hi.
Abigail Elliot:
Roedd Mam wastad yn hapus yn gwneud i'r cartre deimlo'n gynnes. Pan mae ffrind neu rywun arall yn dweud y gair 'mam' nawr, rydw i'n sylweddoli beth mae'n meddwl - cariad, tristwch... mae'n meddwl popeth. Mae mam yn bwysig bwysig iawn ac mae neb yn sylweddoli faint mor bwysig yw mam nes bod hi wedi mynd. Mae pawb yn cymryd pethau pob dydd yn ganiataol, heb sylweddoli yr holl waith mae Mam yn gwneud.
Roedd rhywbeth arbennig am fy mam. Roedd hi'n wahanol, yn ddoniol ond pryd oedd hi mewn tymer - 'Watch out!' Ti'n gwybod y crac am ferched gwallt coch? Oedd hi wastad yn fisi yn gwneud rhywbeth, ond odd hi wastad yn mwynhau hefyd - ca'l ffrind yn dod rownd a chael cwpaned o coffi, ffag a sgwrs.
Ers hynny, mae pethau wedi newid - dim mwg, dim sgyrsiau a 'dyw ffrindiau mam ddim yn dod rownd mor aml.
Dwi'n teimlo fel bod rhan ohonof ar goll, fel jig-so. Dwi'n dod gartre o'r ysgol rhai weithiai a meddwl i fy hun, 'Be' sy' am ginio heno?' Ac yna dwi'n cofio, bod mam ddim yma. Ond mae Mam mor fyw tu fewn i fi, fel ei bod yn hawdd i anghofio.
Hyd yn oed pan dwi'n teimlo'n wag tu fewn; tu fas dwi'n rhoi wyneb ymlaen - yn cuddio'r atgofion o wylio mam yn marw. Ond dwi hefyd yn hapus wrth feddwl am yr atgofion gyda hi ac roedd hi'n gwmni da.
Mae hyn yn gwneud i fi deimlo'n well a bydd bob amser atgofion da, drwg, hapus neu thrist yn dal i fyw tu fewn. Anghofia'i fyth. Dwi'n gobeithio bod Mam dal yn hapus ond dyw'r t欧 ddim mor gynnes.
Delwedd olaf - Mam Abigail, 1968 - 2001
Holi Abigail Elliot:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rydw i'n 16 oed ac yn swnllyd iawn. Rwy'n hyderus ac yn fodlon treial unrhyw beth. Dwi'n hoffi mynd allan gyda ffrindiau i gael sbort - 'it's pucker!'
Am beth mae eich stori yn son?
Mae fy stori i am fy mam. Bu farw ddwy flynedd 'n么l. Roeddwn i am greu y stori yma er c么f am fy mam. Dyna beth sydd yn bwysig i fi a dwi am i bobol weld mor bwysig yw mam yn eu bywydau pob dydd.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?
Wnes i ddysgu sut i defnyddio'r cyfrifiadur a sut i weithio efo sain.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 麻豆社 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—麻豆社 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00