Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyfrol 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' a sioe gerdd Turning the Wheel

Sylwi i gyfrol newydd o gerddi yn ymwneud â chwaraeon, a sioe gerdd newydd yn Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci. A look at the arts scene in Wales and beyond, with Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Yn cadw cwmni i Ffion mae Sioned Dafydd, golygydd cyfrol newydd o gerddi yn ymwneud â'r byd chwaraeon yn dwyn y teitl 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm, yn ogystal â Buddug Watcyn Roberts, un o'r beirdd sydd wedi cyfrannu cerdd newydd sbon i'r casgliad arbennig yma.

Mae Ffion hefyd yn ymweld â chast a chriw sioe gerdd newydd o'r enw 'Turning the Wheel' - sioe sydd ar fin cael ei pherfformio yn Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci.

Anni Llŷn sydd yn adolygu cynhyrchiad unigryw tairieithog Theatr Bara Caws, Theatre Gu Leòr, Yr Alban a Fishamble, Iwerddon, sef Taigh/Tŷ/Teach, tra bod Dr Manon Wyn Williams yn adolygu sioe lwyfan cwmni Mewn Cymeriad, 'Dai' gan Manon Steffan Ros.

Mae Elinor Gwynn yn sgwrsio gyda'r artsit Sarah Carvell yn ei stiwdio yn Ninbych wrth iddi hi baratoi casgliad o luniau ar gyfer arddangosfa newydd yn Oriel Ffin-y-Parc yn Llandudno.

Ac yna i gloi, mae'r artist amryddawn Rhiannon Mair yn trafod ei chynhyrchiad diweddar 'Ar Lan y Môr', yn Neuadd y Glowyr, Rhydaman yn ystod mis Mawrth.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 25 Chwef 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Geraint Løvgreen A'r Enw Da

    Diolch Byth am y Tîm Pêl-Droed

  • Catsgam

    Dyddiau (Acwstig)

    • Sgam.
    • Fflach.
  • Gwilym

    Llechen Lân

  • Clive Harpwood

    Draw Ar Y Mynydd

    • Lleisiau.
    • ADFER.
    • 20.
  • The Trials of Cato

    Difyrrwch (byw yn y Gwobrau Gwerin)

Darllediad

  • Sul 25 Chwef 2024 14:00