Penblwydd Oriel 10 a Gŵyl Agor Drysau Theatr Arad Goch
Mae Ffion yn sgwrsio â Glyn a Gill Saunders-Jones am eu cyfraniad i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen mae Ffion yn ymweld â Glyn a Gill Saunders-Jones, enillwyr Gwobr Arbennig Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am eu cyfraniad i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Yn ogystal â hyn mae Ffion yn ymweld ag Oriel 10 yng Nghaerdydd 15 mlynedd ers ei sefydlu ac yn cael cwmni’r perchennog Cat Gardiner.
Steffan Phillips sydd yn sgwrsio am Ŵyl Agor Drysau Theatr Arad Goch tra bod Esyllt Sears yn sôn am brosiect sydd yn hyrwyddo merched yn y sîn stand-yp yng Nghymru.
Cerddoriaeth yn y gymuned sydd yn cael sylw Martin Hoyland ac mae Cai Tomos a Siri Wigdel, artistiaid dawns, yn trafod proseict Dawns ac Iechyd yn Norwy.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
°äô°ù»å²â»å»å
O Gymru
- Cordydd.
- Cordydd.
- 4.
-
Gwilym Bowen Rhys
Canu'n Iach I Arfon
- O Groth Y Ddaear.
- FFLACH TRADD.
- 2.
-
Al Lewis
Heulwen O Hiraeth (feat. Sarah Howells)
- Heulwen O Hiraeth.
- ALM.
- 1.
-
Brahms 2nd symphony iii mov
Brahms - 2nd Symphony - iii mov - Â鶹Éç NOW
-
Cantus, Songs of the Plains & Karl Jenkins
Cantus - Songs of the Plains - Karl Jenkins
-
Angharad Jenkins & Patrick Rimes
Nant Y Mynydd
- Amrwd.
-
Adwaith
Addo
- Libertino Records.
-
Gai Toms
Pen LlÅ·n
- BAIAIA!.
- Recordiau Sain.
- 5.
Darllediad
- Sul 18 Chwef 2024 14:00Â鶹Éç Radio Cymru & Â鶹Éç Radio Cymru 2