Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

03/09/2023

Wrth iddo ymddeol o fanc HSBC, Euryn Jones sy鈥檔 hel atgofion am ei yrfa yn y byd amaeth. Euryn Jones looks back at his career as he retires from his role at the HSBC bank.

Wrth iddo ymddeol o fanc HSBC fel Dirprwy Reolwr Amaeth y banc, Euryn Jones sy鈥檔 hel atgofion am ei yrfa yn y byd amaethyddol.

Hefyd, Mags Jones, Ysgrifennydd Pencampwriaeth Aredig Cymru, sy鈥檔 edrych ymlaen at y digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn Llanon, Ceredigion ar y nawfed o Fedi. Dyma鈥檙 tro cyntaf i鈥檙 gystadleuaeth gael ei chynnal yno ers deng mlynedd.

Mae cwmni In the Welsh Wind o ardal Aberteifi wedi derbyn statws go arbennig i鈥檞 gwirod yn ddiweddar, gan dderbyn Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig y Deyrnas Unedig. Mae Dan Jones, Rheolwr Gwerthiant ac Allforio鈥檙 ddistyllfa yn falch iawn mai dyma鈥檙 gwirod cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws o鈥檙 math hwn.

Richard Davies sy鈥檔 crynhoi鈥檙 holl newyddion diweddaraf o鈥檙 diwydiant llaeth, ac Elliw Haf Griffith o CFFI Dwyran ar Ynys M么n, sydd hefyd yn Gadeirydd Digwyddiadau a Marchnata CFFI Cymru sy鈥檔 adolygu鈥檙 straeon gwledig yn y wasg a鈥檙 cyfryngau cymdeithasol.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 3 Medi 2023 07:00

Darllediad

  • Sul 3 Medi 2023 07:00