Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ymgyrch newydd Hybu Cig Cymru

Terwyn Davies sy'n clywed hanes Emily Jones o Benuwch, sy'n rhan o ymgyrch newydd HCC. Terwyn Davies chats to Emily Jones from Penuwch, who appears in a new promotion for lamb.

Terwyn Davies sy'n clywed hanes Emily Jones o Benuwch, sy'n rhan o ymgyrch newydd Hybu Cig Cymru, sy'n canolbwyntio'n benodol ar gig oen. Mae Laura Williams egluro mwy am yr ymgyrch hefyd.

Beth Gibbon a Kate Miles o elusen Sefydliad y DPJ sy’n sôn am y Barbeciw Mawr – ymgyrch sy’n annog pobl i gynnal barbeciw yn eu hardal er mwyn codi arian at yr elusen, a sut y mae mynd ati i’w cynnal.

Ar Ynys Môn, mae Menter Môn yn rhedeg cynllun newydd o’r enw Tech Tyfu – sy’n galluogi ffermwyr i ddatblygu ffyrdd o dyfu cnydau heb orfod defnyddio pridd. Dafydd Jones, Rheolwr Prosiectau Bwyd Menter Môn sy’n egluro mwy am yr hyn sy’n digwydd yno.

Llŷr Griffiths-Davies sy’n sôn am y rhagolygon tywydd am y mis i ddod, a Gohebydd y Bwletin Amaeth ar Radio Cymru, Rhodri Davies, sy’n adolygu’r straeon gwledig yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 27 Awst 2023 07:00

Darllediad

  • Sul 27 Awst 2023 07:00