Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Llyfrau

Archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy wrth iddo bori trwy ambell i lyfr gan gynnwys Llyfr Mawr y Plant. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy - all things books!

I fyd y llyfrau gan ddechre efo'r g锚m banel Dros Ben Llestri o'r 90au a Lyn Ebenezer yn chwarae efo geiriau wedi iddo gael y dasg "Ar y Silff", yna clywn gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth am be sy'n gwneud stori dda.

Mi roedd Bob Owen, Croesor yn enwog am gasglu llyfrau a dyma fo mewn darlith yn Lerpwl yn 1961 yn s么n am sut y dechreuodd ei gasgliad enfawr, gyda diolch i'r mil-feddyg Huw Geraint am recordio'r anerchiad. Mae'r awdures Marion Eams yn s么n wrth T Glynne Davies am sut yr oedd hi yn darllen popeth pan yn ifanc - hyd yn oed y botel s么s brown!

Huw Edwards, Brithdir yn adrodd hanes un a wnaeth safiad yn erbyn Brad y Llyfrau Gleision. Ganwyd Evan Jones, neu Ieuan Gwynedd, ym Meirionnydd a mi roedd yn academydd ac yn weinidog a bu farw yn llawer rhy ifanc.

Mae llyfrau ein plentyndod yn cael sylw. Cyhoeddwyd Llyfr Mawr y Plant gan Jenni Thomas a JO Williams ym 1931, a bu鈥檔 llwyddiant ysgubol. Ac awdur Cyfres y Llewod, Dafydd Parri, bu鈥檔 sgwrsio efo Robin Williams n么l ym 1979.

Pobl sydd wedi mentro mewn busnes oedd dan sylw T Glynne Davies. Arianwen Parry, Llanrwst fu'n s么n am ddechrau siop lyfrau Gymraeg yn Llanrwst a'r heriau oedd yn ei gwynebu.

T Llew Jones sy'n s么n am ei gyfnod yn athro ysgol yn y 50au a dod ar draws 诺r a fu'n ddylanwad mawr arno, sef Alun R Edwards, Llyfrgellydd y Sir.

Yr Athro Mary Williams, Abertawe yn cofio'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn cael ei sefydlu ac yn rhannu atgofion gyda Eleri Hopcyn yn 1975.

Gwyn Davies, John Ogwen a Tudur Dylan gafodd y dasg o lunio englyn yn cynnwys un o Lyfrau'r Beibl ym Mhabell L锚n Eisteddfod Ceredigion 1992.

....ac yn olaf, pwy all anghofio Sali Mali? Llyfr eiconig Mary Vaughan Jones a'r lluniau gan Rowena Wyn Jones a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1969.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 4 Maw 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Bando

    Dau Lyfr

  • Endaf Emlyn

    Un Nos Ola' Leuad

    • Dilyn Y Graen CD3.
    • Sain.
    • 2.
  • Gala Performance

    This is your Life

  • The Beatles

    Paperback Writer

    • The Beatles - 1.
    • Apple.
    • 3.
  • Kate Bush

    Wuthering Heights

    • Music Of The Millennium (Various).
    • Universal.
  • Anweledig

    Amdani

  • Elin Fflur

    Cloriau Cudd

    • LLEUAD LLAWN.
    • SAIN.
    • 1.

Darllediadau

  • Sul 4 Meh 2023 13:00
  • Llun 5 Meh 2023 18:00
  • Sul 3 Maw 2024 13:00
  • Llun 4 Maw 2024 18:00