Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Llanymddyfri a Sir Gâr

Crwydro Sir Gâr yng nghwmni John Hardy. Taith o gwmpas Cwrt y Cadno, Porth Tywyn a Llanymddyfri. A visit to Llandovery and towns and villages in Carmarthenshire with John Hardy.

Crwydro ardal Eisteddfod yr Urdd 2023 Sir Gâr mae John Hardy, gan alw yn Llanymddyfri, Cwrt y Cadno, Porth Tywyn a Chaerfyrddin.

Hanes John Harries a ddaeth yn adnabyddus trwy Gymru ar ddiwedd yr 18fed ganrif. Dywedir iddo allu wella afiechydon o bob math, tawelu ysbrydion drwg a darogan y dyfodol. Ieuan Williams a Kate Prys bu'n sôn amdano ar y rhaglen Abracadbra Amen.

Straeon doniol gan y tri brawd o Barcnest ac yna galw draw yn Nhrimsaran. Y gantores Peggy Williams fu'n siarad efo T Glynne Davies. Mi roedd hi'n cadw'r Swyddfa Bost yno a mi hefyd enillodd y Rhuban Glas ddwywaith - yn 1960 a 1964.

Dau o fois Sir Gâr, sef cyn gôl-geidwad Cymru, Dai Davies fu'n trafod y bêl gron ac yna Claude Davey, cyn-gapten Cymru a'r cawr addfwyn, yn trafod y bêl hirgron.

At gynnwys Plas Dolau Cothi yng nghwmni y Parch Goronwy Evans wrth iddo grwydro Plasdai'r sir. Mae Goronwy wedi galw yn Swyddfa Bost Llanpumsaint i gwrdd â Daphne a Gerallt Morgan oedd gyda arddangosfa o eitemau yn ymwneud â Phlas Dolau Cothi, sef cartref y Johnesiaid hyd at 40au'r ganrif ddiwethaf.

Dwy ferch gyda’r Undodiaid yn Sir Gâr oedd dan sylw Dei Tomos nôl yn 2019. Mary Thorley bu’n sgwrsio â Dei am ddwy a oedd yn flaenllaw iawn ac yn wir o flaen eu hamser, sef Laura Hurtsell Powell ac Edith Hunter. Enwad oedd yn dyrchafu lle’r ferch oedd yr Undodiaid a mi roedd y ddwy yn gysylltiedig efo’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.

Gerald Jones, sef cyn bennaeth Brigâd Dân Sir Gaerfyrddin yn cofio Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o’r America yn 1928. Bu hefyd yn lygad-dyst i llongddrylliad yr SV Paul ar draeth Cefn Sidan yn 1925 a hefyd fe welodd Amy Johnson yn hedfan awyren o Bentywyn. Dipyn o atgofion!

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 29 Mai 2023 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 28 Mai 2023 13:00
  • Llun 29 Mai 2023 18:00