Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Morfeydd heli, bio-feddygaeth, ymasiad niwclear a lled-ddargludyddion

Elin Rhys yn cwrdd 芒 gwyddonwyr sy鈥檔 gobeithio gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory. The challenges facing Wales' young scientists, and their hopes for the future.

Elin Rhys sy'n cwrdd 芒 rhai o wyddonwyr Cymru sy鈥檔 ymchwilio heddiw, er mwyn gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory.

Mae'r rhaglen yn dechrau ar forfa heli Cwm Ify ar Benrhyn G诺yr, sydd wedi ei hadfer ar 么l i dwll ymddangos yn y morglawdd. Dr Cai Ladd sydd yn mynd 芒 ni am dro gan drafod pwysigrwydd morfeydd heli i amddiffyn ein harfordir rhag llifogydd, i storio carbon, a gofalu am fyd natur.

N么l yn y labordy, mae Lois Lewis yn ymchwilio i un protein arbennig yn ein celloedd sydd yn gallu achosi clefyd Altzheimer wrth iddo newid si芒p. Mae Lois yn chwilio am gyffur i effeithio ar y protein hwnnw a thrin yr afiechyd.

Efallai mai un o heriau mwyaf ein planed yw sicrhau ynni gl芒n , di-ben-draw, i ddiwallu ein hangen am drydan. Mae proses o'r enw Ymasiad Niwclear yn cop茂o sut mae鈥檙 haul yn cynhyrchu egni, drwy losgi plasma crasboeth mewn adweithydd. Ond dychmygwch y gwres fydd yn yr adweithydd? Mae Dr Llion Evans a'i fyfyriwr PhD Rhidian Lewis ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio ar fodelu deunyddiau all wrthsefyll y gwres fyddai鈥檔 cael ei greu yn y broses. Ac yn Llundain mae Dr Catrin Mair Davies yn ymchwilio i'r ffyrdd ymarferol o gysylltu deunyddiau at ei gilydd er mwyn gallu wynebu'r gwres tanbaid, mewn ffwrnes yn ei labordy.

A, tu fewn i'n teclynnau electronig mae lled-ddargludyddion, semi-conductors, sydd yn caniat谩u i drydan deithio - yn ein sgriniau bach ar y ff么n, cyfrifiaduron, teledu ac yn y blaen. Er mwyn delio gyda thrydan yr oes newydd werdd, mae angen addasu'r rhain. Mae canolfan newydd o'r enw CISM yn agor ym Mai 2023 ar gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Mae Dr Emrys Evans yn un o'r cemegwyr fydd yno, yn defnyddio ymchwil a wnaeth i sut mae llygaid y Robin Goch yn derbyn neges drydanol o faes magnetig y ddaear er mwyn mudo.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 8 Mai 2023 17:30

Darllediadau

  • Sul 19 Maw 2023 18:30
  • Llun 20 Maw 2023 18:30
  • Llun 8 Mai 2023 17:30