Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhewlifeg, bio-feddygaeth, camera ar gyfer y gofod, a bywyd ar waelod y m么r

Elin Rhys yn cwrdd 芒 gwyddonwyr sy鈥檔 gobeithio gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory. The challenges facing Wales' young scientists, and their hopes for the future.

Elin Rhys sy鈥檔 cwrdd 芒 rhai o wyddonwyr Cymru sy鈥檔 ymchwilio heddiw, er mwyn gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory.

Dr Iestyn Barr, ymchwilydd mewn rhewlifeg a darlithydd ym Mhrifysgol Manceinion, ac ail ysgrifennodd llyfrau hanes rhewlifoedd yn ystod y cyfnod clo. Fe fapiodd gymoedd yn Antarctica drwy luniau lloeren, gan brofi bod rhewlifoedd bach wedi bodoli yno ers dros 60 miliwn o flynyddoedd yn hytrach na 34 miliwn o flynyddoedd. Mae ei waith ymchwil yn trawsnewid ein dealltwriaeth o hanes rhewlifoedd a'n helpu i ddeall beth fydd dyfodol rhewlifoedd presennol mewn byd sy'n cynhesu.

Dr Helen Miles a Dr Matt Gunn, dau wyddonydd yn Aberystwyth sydd wedi paratoi camera ar gyfer glaniwr Rosalind Franklin - a oedd i fod i godi ar roced o Rwsia ychydig fisoedd yn 么l. Fe fyddai'r glaniwr a鈥檙 camera hanner ffordd i'r blaned Mawrth erbyn hyn, ond buan newidiodd hynny wedi i Rwsia ymosod ar yr Wcr谩in. Yn y gobaith y daw cyfle eto mae'r ddau yn dal i baratoi, ac yn disgrifio beth sydd yn bosib gyda'r camera.

Mari Davies, myfyriwr PhD, sy鈥檔 gweithio ym maes bio-feddygaeth yn Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd. Mae hi'n edrych ar y darnau bach yn ein celloedd sydd yn ganolfan ail gylchu i bethau gwenwynig, ac yn canfod cyffuriau i helpu pan mae pethau yn mynd o'i le gyda'r broses glyfar hon.

Ac i orffen y rhaglen, nol 芒 ni i'r Antarctig, lle mae Dr Huw Griffiths ar hyn o bryd, ar long wedi ei henwi ar 么l Syr David Attenborough. Mae鈥檔 gweithio i'r British Antarctic Survey fel biolegydd ac yn chwilio am fywyd ar waelod y m么r nad oes neb wedi ei weld o'r blaen.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 1 Mai 2023 17:30

Darllediadau

  • Sul 12 Maw 2023 18:30
  • Llun 13 Maw 2023 18:30
  • Llun 1 Mai 2023 17:30