Main content

Sylvia Davies

Beti George yn sgwrsio gyda Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto. Beti George chats to Sylvia Davies owner of Eto Eto Fashion accessory designer.

Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fyddai fel arall yn mynd i'r domen sbwriel.

Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi â’i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn cyswllt ac yn ffordd o ddygymod â’r galar.

Bu Sylvia yn byw a gweithio yn Israel ac yng Ngwlad Thai, a hynny ar ôl astudio ei gradd mewn Anthropoleg yn y Brifysgol yn Llundain. Bu'n dipyn o rebel yn ei harddegau, ac mae hi'n rhannu straeon o'i bywyd cynnar yng Nghaerfyrddin. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Ar gael nawr

52 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 20 Ebr 2023 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • London Symphony Orchestra & London Symphony Chorus

    Carmina Burana: O Fortuna

  • Meen

    °ä±ô¾±³¦³óé

  • Melin Melyn

    Nefoedd yr Adar

  • Jools Holland & Tom Jones

    Life's Too Short

Darllediadau

  • Sul 4 Rhag 2022 13:00
  • Sul 16 Ebr 2023 18:00
  • Iau 20 Ebr 2023 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad