Y Parchedig John Owain Jones
Beti George yn sgwrsio gyda'r Parchedig J Owain Jones. Beti George chats to Reverend John Owain Jones from The United Church of Bute.
Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar 么l treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a鈥檌 fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i鈥檙 Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon.
Mae cysylltiad Owain 芒'r Alban wedi bod yno bron o鈥檙 cychwyn. Wedi i鈥檞 rieni ddywedd茂o roedd ei Dad eisiau arian i brynu t欧 felly aeth i weithio am gyfnod i鈥檙 Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau鈥檔 ffrindiau pennaf a bu鈥檔 was priodas i鈥檞 Dad. Priododd ei fam a鈥檌 dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn 么l i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a鈥檌 frawd Gethin.
Bob haf roedd y teulu鈥檔 mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o鈥檙 rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu.
Mae Owain yn cyfrannu鈥檔 gyson i鈥檙 slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i鈥檙 Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru.
Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i g芒n.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Ulrik Spang-Hanssen
Prelude and Fugue in A Minor, BWV 543: Fugue
- Bach in Italy.
- CDklassisk.
- 5.
-
The Tornados
Telstar
- Rediscover The 60's - Sealed With A K.
- Old Gold.
-
Donna Summer
MacArthur Park
- The Dance Collection.
- Casablanca.
- 4.
-
German Symphony Orchestra Berlin & Riccardo Chailly
Symphony No. 7 in E major
- Bruckner: The Symphonies.
- Decca Music Group Ltd..
- 30.
Darllediadau
- Sul 27 Tach 2022 13:00麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru
- Iau 1 Rhag 2022 18:00麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people