Rhestr fer Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2022
Cyhoeddi rhestr fer Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2022. Announcing the Welsh-language shortlist for the Wales Book of the Year 2022.
Yn y rhaglen arbennig hon mae Nia yn cyhoeddi rhestr fer Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2022. Pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol tybed? Barddoniaeth, ffeithiol greadigol, plant a phobol ifanc a ffuglen – mae beirniaid y gystadleuaeth yn ymuno gyda Nia yn y stiwdio i ddatgelu'r gyfrinach fawr.
Mae Steffan Donnelly yn galw heibio hefyd am ei sgwrs estynedig gyntaf ers dechrau yn ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
Ac yna i gloi, mae Nia Morgan yn sôn am Ŵyl Undod Hijinks – gŵyl sydd yn cael ei chynnal mewn tri lleoliad yng Nghymru yn ystod mis Mehefin, gan arloesi, creu a hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Llun 20 Meh 2022 21:00Â鶹Éç Radio Cymru & Â鶹Éç Radio Cymru 2