Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ymweld â dwy arddangosfa

Mae Stiwdio yn ymweld â dwy arddangosfa. Stiwdio visits two exhibitions.

Mae Stiwdio yn ymweld â dwy arddangosfa- mae Nia yn parhau gyda'i hymweliad ag arddangosfa ‘Pethau Cudd’, Peter Lord, yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun, ac mae Elinor Gwyn yn sgwrsio gyda’r artist o Lanbedrog, Elin Huws, am ei harddangosfa hithau yn Oriel Plas Glyn y Weddw ar hyn o bryd.

Mae’r cwmni theatrig 'Re-live' ar drothwy perfformio sioe newydd am unigrwydd a pherthyn, sioe sydd wedi ei chreu ac yn cael ei pherfformio gan gast rhwng 72 – 95 oed. Karin Diamod- Cyfarwyddwr theatrig y cwmni, ac un o'r aeoldau- Nora Jones, sy'n sgwrsio am y prosiect unigryw yma.

Ac i gloi, mae Nia yn cofio am gyfraniad Madge Hughes a Penri Jones i fyd y celfyddydau yng Nghymru gydag Enid Parri Evans a Victor Jones.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 13 Meh 2022 21:00

Darllediad

  • Llun 13 Meh 2022 21:00