Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Elwen QC

Portread o yrfa Elwen Evans, Cwnsler y Frenhines; ei chefndir, ei chrefft a'i chymeriad. An insight into the career of Elwen Evans QC; her background, her skill and personality.

Daeth Elwen Mair Evans i'r Bar yn Grey's Inn, Llundain ym 1980 a hithau wedi graddio gyda gradd ddosbarth cyntaf ddwbwl o Gaergrawnt. Fe gymerodd y Sidan yn 2002, gan agor y drws i yrfa yn gweithio ar rai o'r achosion troseddol mwyaf heriol ym Mhrydain Fawr. Ar y cychwyn hi oedd yr unig ferch yn QC ym maes trosedd yng Nghymru a hyd yn oed heddiw, mae merched yn y maes hwn yn brin, yn enwedig yng Nghymru. Dewisodd ddychwelyd o Lundain i ymarfer ei chrefft gan ddechrau yng Nghaer ac yna yn Abertawe, lle bu hefyd yn bennaeth ar Siambr, ac erbyn diwedd ei chyfnod yno, mae hi'n falch o ddweud yr oedd mwy o fargyfreithwyr yn ferched nag oedd yn ddynion. Heb os, mae cryn barch i Elwen Evans am ei gwaith ar achosion proffil uchel iawn, nid dim ond yng Nghymru ond ym Mhrydain Fawr. Yn 么l Winston Roddick QC, 'mae'n sefyll allan fel bargyfreithiwr yn haeddu'r rheng o fod yn Gwnsler y Frenhines a thrwy ei hesiampl hi roedd hi'n dangos bod yna ferched eraill hefyd yn deilwng o gael eu codi i'r rheng.

Ar gyfer rhoi portread cyflawn ohoni hi a'i gwaith, fe ddewiswyd dau achos gwahanol - un lle yr oedd Elwen Evans yn amddiffyn cleient (sef achos Wendy Ellis yn Llys y Goron Caernarfon) ac un lle'r oedd hi yn erlyn (sef yr achos yn erbyn Mark Bridger am lofruddio April Jones, yn Llys y Goron y Wyddgrug). Mae'r ddau achos yn dra gwahanol i'w gilydd ac yn cynnig cyfle i edrych ar wahanol agweddau o waith ac arddull Elwen Evans.

Yn y gyntaf o'r ddwy raglen cawn gyfle i ddod i wybod mwy am gefndir Elwen, am beth wnaeth ei chyflyru i fynd i'r maes troseddol, ei diddordebau, y persona y mae'n rhaid iddi ddefnyddio yn y Llys, a sut y gwnaeth hi ddelio gydag achos mor ffiaidd, cymhleth ac emosiynol 芒'r achos yn erbyn y llofrudd Mark Bridger. Cawn gyfraniadau gan ohebydd y 麻豆社 yn y Canolbarth, Craig Duggan, a chyn ohebydd y Daily Post, Hywel Trewyn.

Fe gawn drosolwg o beth mae hi'n golygu i fod yn Gwnsler y Frenhines yn y maes troseddol; y ddawn o holi a chroesholi; sut mae llunio achos; awyrgylch gystadleuol y maes troseddol; y rheidrwydd i adael emosiwn wrth ddrws y Llys, a thrwy hyn cawn fynediad unigryw i 'theatr' y Llys drwy ddisgrifiadau a stori芒u un o fargyfreithwyr siadanog mwyaf talentog Cymru a thu hwnt.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 24 Maw 2021 18:00

Darllediadau

  • Sul 21 Maw 2021 18:30
  • Mer 24 Maw 2021 18:00