Edward Thomas: Milwr y Beirdd
Gwyneth Lewis sy'n holi pam nad oes rhagor o ymwybyddiaeth yng Nghymru o'r bardd Edward Thomas. Gwyneth Lewis asks why there is so little awareness in Wales of poet Edward Thomas.
Ym Mrwydr Arras yn 1917, cafodd Edward Thomas - un o Gymry Llundain ac un o feirdd mawr yr ugeinfed ganrif - ei ladd. Roedd yn 39 oed.
Un sydd wedi edmygu ei waith dros y blynyddoedd yw Gwyneth Lewis, ac yn y rhaglen hon mae'n gofyn pam nad oes rhagor o ymwybyddiaeth yng Nghymru o'r bardd pwysig hwn.
Dechreuodd Edward Thomas ysgrifennu barddoniaeth rhyw ddwy flynedd cyn iddo farw, a lluniodd dros 140 cerdd yn ystod y cyfnod hwnnw - am bethau bach a mawr, o ddanadl poethion i ryfel a chymhlethdod cariad. Fel unrhyw gelfyddyd dda, mae'n syml a chymhleth ar yr un pryd.
Er mai Saesneg oedd iaith ei waith, cafodd Edward Thomas ei lunio gan ei dras Cymreig.
Roedd yn ymwelydd cyson 芒 theulu yn ardaloedd Rhydaman a Phontarddulais. Ei diwtor pan yn fyfyriwr yn Rhydychen oedd O. M. Edwards, un o Gymry mwyaf dylanwadol y dydd.
Dyma raglen sydd yn edrych o'r newydd ar ei Gymreictod a'i berthynas 芒 Chymru.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Iau 23 Tach 2017 12:30麻豆社 Radio Cymru