Episode 2
Alun Thomas gyda straeon gan Gymry Cymraeg sy'n byw ac yn gweithio mewn gwahanol wledydd. Stories from some of the Welsh speakers living in various parts of the world.
Alun Thomas gyda straeon gan Gymry Cymraeg sy'n byw ac yn gweithio mewn gwahanol wledydd.
Yn y rhaglen hon, mae Rebekah 'Beks' James yn rhoi darlun llai cyfarwydd i ni o ddinas fywiog Hong Kong.
Ar 么l bod yn athrawes yn Fiet-nam ers blwyddyn, mae Mirain Dafydd yn trafod y problemau wrth gyfathrebu mewn gwlad dramor, yn enwedig os nad yw'r awdurdodau eisiau i chi gyfathrebu bob tro.
Trafod y flwyddyn sydd o'u blaenau mae Elena Parina ac Andy Bell. Gyda 2016 newydd ddod i ben, mae'r naill yn disgwyl blwyddyn yr un mor gythryblus yn yr Almaen, a'r llall yn rhagweld blwyddyn o newid yn Awstralia oherwydd dadleuon a phryderon sy'n gyfarwydd iawn i ni.
Sgwrs hefyd gyda Geraint Curig yng Ngwlad Groeg. Nid problemau economaidd a gwleidyddol sy'n cael ei sylw am unwaith, ond yn hytrach effaith y tywydd ar ffyniant coed olewydd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Gwen 6 Ion 2017 12:05麻豆社 Radio Cymru