Episode 1
Alun Thomas gyda straeon gan Gymry Cymraeg sy'n byw ac yn gweithio mewn gwahanol wledydd. Stories from Welsh speakers living in various parts of the world.
Alun Thomas gyda straeon gan Gymry Cymraeg sy'n byw ac yn gweithio mewn gwahanol wledydd.
Yn y rhaglen hon, mae Bethan Kilfoil yn trafod achos o dor-cyfraith yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'n ymwneud ag un o s锚r byd y campau, ond dyw hi ddim yn stori sydd wedi cael rhyw lawer o sylw yr ochr yma i F么r Iwerddon.
Mae Hedd Thomas yn 么l yng Nghymru wedi cyfnod yn Ne Swdan, ac yn dweud wrth Alun sut mae pethau yn un o wledydd mwyaf newydd Affrica.
Moethusrwydd bywyd yn Qatar sy'n cael sylw Rhodri Ogwen, wrth i Iolo ap Dafydd gyfleu cyffro ac ansicrwydd byw yn Nhwrci.
Ac ychydig ddyddiau wedi i Donald Trump ennill arlywyddiaeth Unol Daleithiau America yn ffurfiol, Robert J Jones o dalaith Efrog Newydd sy'n sgwrsio ag Alun am y teimladau yno erbyn hyn.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 23 Rhag 2016 12:00麻豆社 Radio Cymru