Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Iwan Roberts ac Eirian Owen

Nia Roberts yng nghwmni Iwan Roberts ac Eirian Owen, dau sydd yn perthyn i'w gilydd ac wedi rhagori mewn meysydd gwahanol iawn. Nia Roberts chats to Iwan Roberts and Eirian Owen.

Efallai nad ydi'r cysylltiad rhwng y ddau sydd yn gwmni i Nia Roberts yn y rhaglen hon yn un amlwg, ond mae'r ddau yn enwog am ddiddanu'r genedl ar lwyfannau gwahanol iawn. Wrth i'r naill ddefnyddio ei dwylo ym maes cerddoriaeth, roedd y llall yn dibynnu ar ei draed i gicio p锚l, ond y ddau yn perfformio ac yn gorfod wynebu beirniadaeth gyhoeddus.

Castell Harlech ydi'r lleoliad ar gyfer y sgwrs gydag Eirian Owen ac Iwan Roberts, ei nai. Mae'r ddau yn hel atgofion wedi colli brawd a thad yn ifanc, ac mae'n amlwg wrth iddyn nhw wneud eu bod yn deulu agos. Er bod Eirian bron yn 20 oed pan gafodd Iwan ei eni, roedd sawl cyfle i fod yng nghwmni ei gilydd wrth i Iwan ymweld ag aelwyd cartref ei fodryb yn y Wern Ddu yn Llanuwchllyn.

Un profiad cyffredin ydi'r ffaith i'w gyrfaoedd fynd 芒 nhw dros y ffin. Roedd Iwan yn ifanc iawn pan ddigwyddodd hynny, ac mae Eirian yn dweud ei bod yn llawn edmygedd ohono'n mynd i Watford yn 16 oed. Fyddai hi ddim wedi medru gwneud hynny mor ifanc, ond yn ystod ei gyrfa hithau daeth cyfle i adael ei swydd yn Ysgol y Gader a dechrau ar bennod newydd ym Manceinion.

Dydi Iwan ddim yn gerddor. Roedd ei dad, ar y llaw arall, yn aelod ffyddlon o G么r Godre'r Aran, a hynny mae'n debyg oherwydd i Gwynedd ac Eirian gael eu magu ar aelwyd gerddorol iawn. Ond fel Eirian, mae Iwan yn cael ei ystyried yn berson trwsiadus, ac mae'r barf enwog yn rhan o'i ddelwedd. Maen nhw hefyd yn trafod ofergoeliaeth - rhywbeth sy'n golygu llawer i Iwan, ond ddim i Eirian - a pherffeithrwydd, sy'n medru mynd ar nerfau Eirian oherwydd ei fod mor bwysig iddi.

Fel sy'n digwydd yn ystod sgyrsiau Tra Bo Dau, mae'r cwmni'n dod i sywleddoli'n raddol eu bod yn debycach i'w gilydd na'r hyn yr oedden nhw'n ei feddwl, ac mae Nia'n ffarwelio 芒'r ddau wedi mwynhau yn fawr.

54 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 27 Tach 2018 12:00

Darllediadau

  • Sul 18 Rhag 2016 19:05
  • Maw 20 Rhag 2016 12:00
  • Iau 20 Ebr 2017 18:00
  • Maw 27 Tach 2018 12:00