Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Aled Samuel a Rhian Morgan

Nia Roberts yng nghwmni g诺r a gwraig, Aled Samuel a Rhian Morgan, yng Nghlwb y Cameo ym Mhontcanna yng Nghaerdydd. Nia Roberts chats to Aled Samuel and Rhian Morgan.

Mae'n debyg mai Clwb y Cameo ym Mhontcanna, Caerdydd, oedd man cychwyn carwriaeth y ddau sy'n gwmni i Nia Roberts yn y rhaglen hon. Yno y digwyddodd snog nwydus a gwallgof mewn parti wedi rhaglen fyw ar S4C un nos Galan, ond roedden nhw'n nabod ei gilydd ymhell cyn hynny. Yn wir, brawd ei ffrind gorau oedd Aled Samuel i Rhian Morgan am flynyddoedd.

Wrth sgwrsio 芒 Nia, mae'r ddau yn trafod eu cefndiroedd a'u dylanwadau tebyg. Mae 'na s么n yn arbennig am bwysigrwydd mam-gu ym magwraeth y ddau, gan gynnwys Aled yn manteisio ar raglenni radio byw o Abertawe i roi gwybod i'w fam-gu y byddai'n galw i'w gweld ymhen rhyw ugain munud. Ac mae Rhian yn dweud mai bod yng nghwmni mam-gu, o bosib, oedd man cychwyn ei diddordeb hi mewn actio.

Tu hwnt i Gymru, mae Aled yn s么n am fynd 芒'r Tebot Piws i America. Mae'n credu iddo gael mwy o brofiadau cofiadwy ac adeiladol yno nac yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei fywyd. Trwy wneud cyfweliadau byw o America gydag Eurof Williams ar gyfer rhaglenni Sosban y dechreuodd feddwl am ddilyn gyrfa mewn sgwennu a darlledu.

Dyma ddau sydd yn cymryd eu gwaith o ddifrif. Yn 么l Rhian, mae 'na lonyddwch yn perthyn i Aled wrth iddo baratoi i gyflwyno rhaglen neu sgwennu colofn, ac mae'n cydnabod ei bod yn nerfus yn darllen colofnau ei g诺r yng nghylchgrawn Golwg. Mae Aled, ar y llaw arall, yn medru ymlacio wrth wylio ei wraig yn actio. Mae'n gwybod am yr holl ymchwil a gwaith meddwl ganddi cyn y ffilmio neu'r perfformiad byw, ac mae Rhian yn s么n am yr holl bleser mae'n ei gael o ddysgu am agweddau o fywyd wrth ymgymryd 芒 gwahanol rannau.

Mae'n amlwg wrth wrando ar y sgwrs eu bod yn deall ei gilydd i'r dim. A newyddion da i unrhyw un sy'n cofio Pelydr X ydi fod cymeriad Glan o'r gyfres ddychan yn gwneud ailymddangosiad!

54 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 25 Tach 2018 19:05

Darllediadau

  • Sul 11 Rhag 2016 19:05
  • Maw 13 Rhag 2016 12:00
  • Sul 16 Ebr 2017 12:00
  • Sul 25 Tach 2018 19:05