Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Elfen

Ymweliad â Bae Caerdydd i gael hanes cwmni dylunio Elfen gan Guto Evans a Gwion Prydderch. Gari visits Cardiff Bay to learn more about Elfen, a bilingual design company.

Cwmni dylunio dwyieithog wedi'i leoli ym Mae Caerdydd yw Elfen, ac mae'n agos at fod yn 20 mlynedd ers ei ffurfio wrth i Gari ymweld â'r brifddinas ar gyfer y sgwrs hon gyda Guto Evans a Gwion Prydderch.

Mae Guto a Gwion yn arwain tîm sy'n cynnig atebion creadigol a strategol i ofynion cyfathrebu cwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n medru bod yn broses hir iawn oherwydd yr holl drafod wrth geisio deall union ddymuniad y cleient, a does dim sicrwydd o gytundeb wrth dendro am waith.

Wrth sgwrsio â Gari, mae'r ddau yn sôn am brosiectau gyda Dŵr Cymru, Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon, a llawer mwy.

Dyma bartneriaeth sy'n gyfrifol am dîm bychan, ond agos iawn, a does dim amheuaeth eu bod yn cymryd eu gwaith o ddifrif ac yn ymfalchïo ynddo.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 28 Tach 2016 12:00

Darllediad

  • Llun 28 Tach 2016 12:00

Podlediad Rhaglen Gari Wyn

Gari Wyn a'i olwg unigryw ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.

Podlediad