Lowri Roberts
Dau fusnes am bris un wrth i Lowri Roberts drafod ei chwmni cyfieithu a'i siop yng Nghroesoswallt. Gari chats to Lowri Roberts about her translation company and shop in Oswestry.
Mae Gari'n cynnig bargen i ni yn y rhaglen hon, sef dau fusnes am bris un.
Fe agorodd Siop Cwlwm yn hen farchnad Croesoswallt yn 2010, a Lowri Roberts a'i mham Linda sy'n gyfrifol amdani. Ai dyma'r unig siop Gymraeg yn Lloegr, tybed? Yn sicr, mae Lowri'n frwd dros chwifio'r Ddraig Goch yr ochr arall i'r ffin, ac yn teimlo'n gryf iawn dros gael Cymreictod yng Nghroesoswallt a Sir Amwythig.
Lowri sydd hefyd yn gyfrifol am gwmni cyfieithu Trosi Tanat. Ychydig cyn sgwrsio 芒 Gari, cafodd 拢2,500 ar gyfer y busnes a gwerth 拢5,000 o hyfforddiant gan gymdeithas IPSE.
Wrth rwydweithio a chydweithio, mae'r ddau fusnes yn cydgryfhau. Er hynny, mae Lowri'n pwysleisio na ddylai'r ffin ieithyddol ddilyn y ffin ar y map, ac mae'n mawr obeithio y bydd llefydd fel Crosoeswallt yn cael rhagor o gefnogaeth o Gymru yn y dyfodol.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 21 Tach 2016 12:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad Rhaglen Gari Wyn
Gari Wyn a'i olwg unigryw ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.
Podlediad
-
Gari Wyn
Golwg ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.