Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Elliw Gwawr

Catrin Heledd sy'n herio panel i'w pherswadio mai digwyddiad o'u dewis nhw yw'r pwysicaf dros y penwythnos. Three panellists get to sell an event of their choice.

Nid Rob Howley a'i ddynion yw'r unig rai sy'n gobeithio mwynhau buddugoliaeth y penwythnos hwn. Hyd yma, dyw Gareth Rhys Owen ddim wedi llwyddo i ddarbwyllo Catrin Heledd fod unrhyw un o gemau rygbi'r hydref yn bwysicach na digwyddiadau eraill, ond mae'n ffyddiog y bydd gêm Cymru'n erbyn De Affrica'n newid hynny.

Ar ôl mynd â ni i Sbaen yr wythnos ddiwethaf, mae Dylan Ebenezer yn aros yng Nghymru'r tro hwn ar gyfer gêm bêl-droed Y Seintiau Newydd yn erbyn Airbus UK. Mae'r tîm o Groesoswallt yn gobeithio creu hanes yn Uwch Gynghrair Cymru gydag 16 buddugoliaeth yn olynol ers dechrau'r tymor, ond a fydd Dylan yn fuddugol yn Chwarae Dy Gêm?

Rasio ceir sy'n mynd â bryd panelydd gwadd yr wythnos, y gohebydd seneddol Elliw Gwawr. Mae hi'n mynd â ni yr holl ffordd i Abu Dhabi ar gyfer Grand Prix ola'r tymor.

Trwy gyfres o rowndiau, mae'r tri yn cael cyfle i berswadio Catrin mai nhw sydd wedi dewis digwyddiad pwysica'r penwythnos.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 25 Tach 2016 18:30

Darllediad

  • Gwen 25 Tach 2016 18:30