Owain Tudur Jones
Catrin Heledd sy'n herio panel i'w pherswadio mai digwyddiad o'u dewis nhw yw'r pwysicaf dros y penwythnos. Three panellists get to sell an event of their choice.
Mae'n rhaid fod cyllideb Chwarae Dy Gêm yn tyfu wrth i Catrin Heledd a'i phanelwyr wythnosol, Dylan Ebenezer a Gareth Rhys Owen, gael cwmni Owain Tudur Jones. Ond yr un yw'r her i'r panelydd gwadd diweddaraf, sef i ddwyn perswâd ar Catrin mai digwyddiad o'i ddewis o yw un pwysica'r penwythnos. A beth yw'r dewis hwnnw? Na, nid gêm bêl-droed, ond yn hytrach noson fawr i ddilynwyr yr Ultimate Fighting Championship. Peidiwch â phoeni os nad yw hynny'n golygu unrhyw beth i chi, oherwydd fe gewch chi holl hanes yr UFC gan OTJ.
Mae Gareth, ar y llaw arall, wedi mynd am ddewis amlwg iawn... eto. Wedi'r fuddugoliaeth dros Ariannin, mae'n troi ei sylw yn y rhaglen hon at gêm rygbi Cymru v Japan.
I Sbaen mae Dylan yn mynd â ni, a hynny ar gyfer yr ornest leol rhwng Real Madrid ac Atlético Madrid.
Trwy gyfres o rowndiau, mae'r tri yn cael cyfle i berswadio Catrin mai nhw sydd wedi dewis digwyddiad pwysica'r penwythnos.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 18 Tach 2016 18:30Â鶹Éç Radio Cymru