Main content

Dai Francis

Llŷr Gwyn Lewis yn sgwrsio â phobl am y comiwnydd, undebwr ac eisteddfodwr Dai Francis. Llŷr Gwyn Lewis learns more about miners' champion and communist Dai Francis.

Yn undebwr o'i goryn i'w sawdl, ymdrechodd Dai Francis ar hyd ei oes i wella byd y gweithiwr. Mae'n cael ei gofio fel comiwnydd a weithiodd yn ddiflino gydag Undeb Glowyr De Cymru a Chyngres Undebau Llafur Cymru, ond roedd mwy iddo na hynny. Yn un peth, roedd yn eisteddfodwr brwd a ddaeth yn aelod o Orsedd y Beirdd.

Yn y rhaglen hon, mae Llŷr Gwyn Lewis yn sgwrsio gyda phobl a oedd yn nabod Dai Francis, gan ddechrau gyda'r Athro Syr Deian Hopkin. Mae'n ei gofio fel dyn cymharol fychan gyda chymeriad enfawr, llais cryf a phersonoliaeth rhyfeddol. Doedd dim diben dadlau ag o oherwydd y fath angerdd a deimlai tuag at bobl a'r amrywiol fudiadau y bu'n gysylltiedig â nhw.

Dau sydd ag atgofion personol iawn yw ei fab Hywel a'i gefnder Brian. Mae Hywel yn sôn am ei dad yn cysgu'n ei gadair oherwydd ei fod mor flinedig yn mynd o gyfarfod i gyfarfod, ac yn cymharu dau ddegawd cwbl wahanol iddo - y 60au gyda'i drychinebau a phyllau glo yn cau bron bob wythnos, yna'r 70au gyda llwyddiant Undeb y Glowyr a streiciau mawr yn cael eu hennill.

Nid at Dai, ond Dafydd, mae Brian Morgan Francis yn cyfeirio. Roedd 30 mlynedd o fwlch rhwng y ddau, ac roedd cyfathrebu'n broblem gan nad oedd Brian yn deall gair o Gymraeg bryd hynny. Roedd ei gefnder, fodd bynnag, yn mynnu siarad yr iaith.

Dau arall sy'n dwyn i gof yng nghwmni LlÅ·r ydi Aled Gwyn ac Einion Thomas. Mae'r naill yn cyferio ato fel Marcsydd o Gristion a oedd yn fyr o gorff ond yn llawn egni, a'r llall yn cofio siaradwr da yn mynd i hwyl wrth ddisgrifio pethau.

Rhwng popeth, cawn ddarlun o ddyn egwyddorol a dwys, ond digrif hefyd.

Ar gael nawr

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 30 Rhag 2016 18:00

Darllediadau

  • Gwen 25 Tach 2016 12:30
  • Gwen 30 Rhag 2016 18:00