Mattie Prichard
Llŷr Gwyn Lewis yn sgwrsio â phobl am Mattie Prichard, a wyddai sut i fwynhau bywyd. Llyr Gwyn Lewis learns more about Mattie Prichard and her enjoyment of the good things in life.
Dyma raglen sy'n debygol o fod yn dipyn o agoriad llygad i unrhyw un sy'n meddwl am Mattie Prichard fel Mrs Caradog Prichard a dim arall. Oedd, roedd yn briod â llenor adnabyddus, ond fe dorrodd ei chwys ei hun a dod yn ffigwr amlwg ymysg Cymry Llundain.
Yn y rhaglen hon, mae Llŷr Gwyn Lewis yn sgwrsio â phobl a oedd yn nabod Mattie Prichard, gan gynnwys yr hanesydd J Elwyn Hughes. Mae'n sôn am gymeriad a hanner gyda phersonoliaeth gref.
Fel J Elwyn Hughes, mae'r actor John Ogwen hefyd yn hel atgofion am Mattie a Caradog Prichard yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn arbennig felly eu bod yn ymddwyn yn wahanol iawn i'w gilydd yno.
Daeth Sioned Webb i gysylltiad â hi fel myfyriwr yn Llundain. Roedd hi'n gwneud ymchwil ar y cerddor Meirion Williams ar y pryd, a chyda chymorth Mattie Prichard - fel un a oedd yn byw ac yn bod ym mwrlwm Cymry Llundain - llwyddodd i gyfarfod â phobl allweddol. Roedd hi hyd yn oed yn byw o dan yr un to am gyfnod, ac mae'n cofio bod yn ei hystafell wely'n gwrando ar bartïon gwyllt yn cael eu cynnal yno.
Mynd ar ôl yr hawliau i wneud ffilm o Un Nos Ola Leuad oedd rheswm y cynhyrchydd teledu Pauline Williams dros gwrdd â Mattie Prichard, ac mae'n dweud wrth Llŷr ei bod yn falch fod rhywun eisiau addasu nofel ei diweddar wr.
Er bod y darlun cyffredinol yn un o rywun a oedd yn gyfforddus iawn ei byd, mae J Elwyn Hughes yn pwysleisio fod y darlun hwnnw fymryn yn gamarweiniol. Ac er gwaetha'r straeon am y gwahaniaethau rhwng y pâr priod, mae John Ogwen yn amau a fyddai Caradog Prichard wedi byw cyhyd oni bai fod ei wraig yn gofalu amdano.
Caredig, annwyl, cyfeillgar, ac unigryw ar ryw ystyr - dim ond rhai o'r geiriau mae LlÅ·r yn eu clywed wrth sgwrsio am Mattie Prichard.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Gwen 18 Tach 2016 12:30Â鶹Éç Radio Cymru
- Iau 29 Rhag 2016 18:00Â鶹Éç Radio Cymru